Afon Mississippi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B clean up
Llinell 9:
 
== Ei chwrs ==
Lleolir tarddle Afon Mississippi yn y corsdiroedd eang ger [[Duluth]] (ar lan [[Llyn Superior]]) yng ngogledd [[Minnesota]]. Yn y dalaith honno mae hi'n llifo heibio i ddinasoedd [[Minneapolis, Minnesota|Minneapolis]] a [[St. Paul, Minnesota|St. Paul]]. Rhwng de Minnesota a St. Louis mae'r afon yn nodi'r ffin rhwng taleithiau [[Iowa]] a [[Missouri]] i'r gorllewin a [[Wisconsin]] ac [[Illinois]] i'r dwyrain. Ger [[Davenport]] yn Iowa mae camlas yn cysylltu'r afon â [[Llyn Michigan]], i'r gogledd o [[Chicago]]. Yn ymyl [[St. Louis]] mae afon fawr [[Afon Missouri|Missouri]] yn ymuno o'r gorllewin. Yn nes ymlaen i'r de, ger tref [[Cairo (Illinois)|Cairo]], daw [[Afon Ohio]] i ymuno â'r afon fawr; mae ffiniau tair talaith - [[Missouri]], [[Illinois]] a [[Kentucky]] - yn cwrdd yno.
 
Mae Afon Mississippi yn llifo yn ei blaen trwy'r gwastadiroedd eang i dref [[Memphis (Tennessee)|Memphis]] ac yn nodi'r ffin rhwng [[Arkansas]] a [[Tennessee]]. Yr afon fawr nesaf i ymuno â hi yw [[Afon Arkansas]] ac mae'n llifo heibio i iseldiroedd talaith [[Mississippi (talaith)|Mississippi]] ei hun ar ei lan ddwyreiniol. Yna mae'n rhedeg ar hyd y ffin rhwng [[Louisiana]] a [[Mississippi (talaith)|Mississippi]] ond am ran olaf ei thaith hir rhed drwy Louisiana yn unig, gan fynd heibio i [[Baton Rouge]] a thorri i fyny yn gyfres o sianelu cymhleth a elwir ''the Passes'' wrth fynd heibio i [[Orleans Newydd]] a chyrraedd [[Gwlff Mecsico]] ar isthmws o dir aliwfial sy'n ymestyn allan i'r gwlff hwnnw.
Llinell 18:
== Gweler hefyd ==
* [[Mississippi (talaith)|Mississippi]], y dalaith.
 
 
 
{{DEFAULTSORT:Mississippi}}