Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau 2008: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: (3) using AWB
B clean up
Llinell 34:
|after_party=Blaid Democrataidd (UDA)}}
 
'''Etholiad arlywyddol 2008''' oedd yr 56fed etholiad arlywyddol yr UDA. Fe'i cynhaliwyd ar ddydd Mawrth, [[4 Tachwedd]] [[2008]]. Trechodd y Seneddwr [[Barack Obama]] a'r Seneddwr [[Joe Biden]] o'r [[Plaid Ddemocrataidd (Unol Daleithiau)|Blaid Ddemocrataidd]], a oedd yn rhedeg fel Dirprwy Arlywydd, [[John McCain]] a Sarah Palin o'r [[Plaid Weriniaethol (Unol Daleithiau)|blaid Weriniaethol]]. [[Barack Obama]] oedd yr Americanwr Affricanaidd cyntaf erioed i gael ei ethol fel [[Arlywydd yr Unol Daleithiau]], a [[Joe Biden]] oedd y [[Pabyddiaeth|Paybydd]] cyntaf erioed i gael ei ethol fel Dirprwy Arlywydd. Dyma'r etholiad cyntaf i gynnwys dau brif ymgeisydd a oedd wedi'u geni y tu allan i daleithiau cyffiniol yr Unol Daleithiau: ganwyd Obama yn [[Hawaii]] a McCain yn ''Coco Solo Naval Air Station'', ym 'Mharthau Camlas Panama'.
 
Nid oedd yr Arlywydd ar y pryd, [[George W. Bush]] o'r Blaid Weriniaethol, yn gymwys i gael ei ethol am drydydd tymor oherwydd cyfyngiadau o dan yr [[22ain Gwelliant o Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau]]. Erbyn Mawrth 2008, sicrhaodd McCain yr enwebiad Gweriniaethol, tra roedd gystadleuaeth gref rhwng Obama a'r Seneddwr [[Hillary Clinton]] yn y gystadleuaeth am enwebiad y Democratiaid. Roedd Clinton yn cael ei gweld fel yr unigolyn mwyaf tebygol o ennill yr enwebiad ond erbyn Mehefin 2008 roedd Obama wedi sicrhau'r enwebiad.
Llinell 46:
Yn 2004, enillodd yr Arlywydd George W. Bush yr etholiad arlywyddol drwy guro'r enwebiad Democrataidd, sef y Seneddwr John Kerry. Yn ogystal, enillodd y Blaid Weriniaethol seddi yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr a'r Senedd yn etholiadau 2004 ac o ganlyniad, Gweriniaethwyr oedd yn rheoli'r canghennau gweithredol a deddfwriaethol y llywodraeth ffederal.<ref>[http://www.fec.gov/pubrec/fe2004/federalelections2004.pdf fec.gov;] adalwyd 30 Tachwedd 2016.</ref>
 
Roedd poblogrwydd Bush wedi bod yn araf ddirywio o bron i 90% ar ôl ymosodiadau 9/11<ref>http://usatoday30.usatoday.com/news/politicselections/2003-01-13-bush-poll_x.htm</ref> i lawr i 50%. Yn ôl polau barn fe wnaeth ei boblogrwydd prin gyrraedd 50% yn y cyfnod a oedd yn arwain at etholiad arlywyddol 2005. Er hyn ailetholwyd Bush efo canran uwch o'r [[Coleg Etholiadol UDA|Coleg Etholiadol]] o gymharu â'r etholiad yn y flwyddyn 2000. Yn ystod ei ail dymor gostyngodd poblogrwydd George W Bush yn gyflym oherwydd Rhyfel Irac a'r ymateb ffederal i Gorwynt Katrina yn 2005<ref>http://www.npr.org/templates/story/story.php?storyId=4860458 </ref>.
 
Erbyn mis Medi 2006, roedd poblogrwydd Bush yn is na 40%<ref>http://users.hist.umn.edu/~ruggles/Approval.htm</ref>, ac yn yr etholiadau ffederal mis Tachwedd 2006 fe enillodd y Democratiaid mwyafrif yn y ddau dŷ. Erbyn i George W Bush adael y Tŷ Gwyn roedd polau yn dangos bod y nifer a oedd yn ei gefnogi oddeutu 25-37%<ref>http://www.pollster.com/polls/us/jobapproval-bush.html</ref>.