Lakota (pobl): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 18fed ganrif18g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Grŵp o frodorion Gogledd America yw'r '''Lakota''' (hefyd '''Lakhota''', '''Teton''' neu '''Titonwon'''). Hwy yw'r mwyaf gorllewinol o dair cangen y [[Sioux]], gyda'u tiroedd yn naleithiau [[Gogledd Dakota]] a [[De Dakota]]. Maent yn siarad yr [[Lakota (iaith)|iaith Lakota]], un o dair prif tafodiaith yr [[Sioux (iaith)|iaith Sioux]]. Ceir saith cangen o'r Lakota: y [[Brulé]], [[Oglala Lakota|Oglala]], [[Sans Arcs]], [[Hunkpapa]], [[Miniconjou]], [[Sihasapa]] a'r [[Two Kettles]].
 
Roedd tua 20,000 o Lakota yng nghanol y [[18g]]; erbyn hyn mae tua 70,000, gyda tua 20,500 o'r rhain yn siard yr iaith Lakota. Yn y [[19g]] bu llawer o ymladd rhwng y Lakota a byddin yr [[Unol Daleithiau]]. Roedd ardal y [[Bryniau Duon]] yn gysegredig i'r Lakota, ac roeddynt yn bendefynol o'i amddiffyn. Llwyddodd y Lakota gyda'r [[Arapaho]] a'r [[Cheyenne]] o orchfygu'r cadfridog George Crook ym Mrwydr y Rosebud, ac wythnos yn ddiweddarch i orchfygu'r [[Seithfed Marchoglu]] dan [[George Armstrong Custer]] ym [[Brwydr Little Big Horn|Mrwydr Little Big Horn]] yn 1876, gan ladd Custer a 258 o'i filwyr. Yn y diwedd, fodd bynnag, bu raid iddynt ildio i'r fyddin, a gyrrwyd hwy i warchodfeydd. Yn [[1877]] gorfodwyd hwy i arwyddo cytuneb yn trosglwyddo'r Bryniau Duon i'r Unol Daleithiau.
 
Erbyn heddiw ceir y mwyafrif o'r Lakota mewn pump gwarchodfa yng ngorllewin De Dakota: Rosebud(y Brulé), Pine Ridge (Oglala), Lower Brulé (Brulé), Cheyenne River (nifer o ganghennau, yn cynnwys y Sihasapa a'r Hunkpapa), a Standing Rock (nifer o ganghennau).
 
==Lakota enwog==