Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ynys Bouvet"

Lleihawyd o 3 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
clean up
B (dead link)
B (clean up)
Lleolir Ynys Bouvet yn 54°26' De, 3°24' Dwyrain. Mae'r ynys yn mesur tua 12 km ar draws ar ei lletaf. Ei harwynebedd yw 58.5 km² gyda 93% ohoni'n orchuddiedig gan [[Rhewlif|rewlifoedd]] sy'n llesteirio mynediad i'r glannau deheuol a dwyreiniol; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km².
 
Nid oes gan yr ynys na phorthfa na harbwr, dim ond angorfeydd oddi ar yr arfordir, ac felly mae'n lle anodd i'w cyrraedd o'r môr. Mae'r rhewlifoedd yn ffurfio haen trwchus o rew sy'n disgyn i'r môr yn glogwynni rhew uchel neu ar draethau duon o dywod fwlcanaidd. Amgylchynir y 29.6 km (18.4 milltir) o arfordir gan bac rhew yn aml.
 
Ceir tri mynydd arni, sef '''Olavtoppen''' (780m) yn y gogledd, a '''Mosbytoppen''' (670m) a '''Lykketoppen''' (766m) yn y gorllewin. Mae silff craig [[lafa]] a ymddangosodd ar lan orllewinol yr ynys rhwng [[1955]] a [[1958]] yn cynnig lle i adar nythio.
Darganfuwyd Ynys Bouvet ar yr [[11 Ionawr]], [[1739]], gan y morwr [[Jean-Baptiste Charles Bouvet de Lozier]] oedd yn arwain y llongau hwyliau Ffrengig ''Aigle'' a ''Marie''. Ond gan nad oedd lleoliad yr ynys wedi'i gofnodi'n iawn ac nad oedd Bouvet wedi hwylio oddi amgylch yr ynys, roedd yn anodd gwybod os oedd Ynys Bouvet yn ynys neu'n rhan o gyfandir.
 
Ni welwyd yr ynys eto tan [[1808]], gan gapten Lindsay y llong [[hela morfiloedd]] ''Swan'' o'r Cwmni Enderby. Ni laniodd Lindsay ond gosododd lleoliad yr ynys yn gywir.
 
Yn Rhagfyr [[1822]] glaniodd y dynion cyntaf ar yr ynys, sef Capten Benjamin Morrell a chriw y ''Wasp'', llong hela [[morlo]]. Yn [[1825]], hefyd yn Rhagfyr, glaniodd Capten Norris meistr y llongau ''Sprightly a ''Lively'' o'r Cwmni Enderby; enwodd yr ynys ''Liverpool Island'' a'i hawlio i'r Goron Brydeinig.
 
Am dros hanner canrif nid oes cofnod o ymweliad, ond yn [[1898]] hwyliodd Carl Chun o'r fenter Antarctigaidd Almaenig ''Valdivia'' yn agos i'r ynys a thynwyd lluniau ohoni.
 
Yn [[1927]], arosodd criw Norwyaidd y ''Norvegia'' ar yr ynys am fis ac rhoddasant yr enw [[Norwyaeg]] Bouvetøya arni, sail hawliad tiriogaethol Norwy i'r ynys; cafodd ei chymryd drosodd ar [[21 Rhagfyr]], 1927, ac ar [[23 Ionawr]], [[1928]] daeth yn [[Tiriogaethau Norwy|diriogaeth Norwyaidd]] yn sgîl Datganiad Brenhinol. Yn [[1930]] pasiwyd deddf yn Norwy a wnaeth yr ynys yn diriogaeth ddibynnol dan sofraniaeth coron Norwy ond dim yn rhan o'r deyrnas ei hun.
420,642

golygiad