Tokyo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tamall (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B clean up
Llinell 1:
[[image:Location TokyoJapan.jpg|bawd|dde|200px|Lleoliad Tokyo]]
[[Prifddinas]] [[Japan]] a dinas fwyaf y wlad yw '''Tōkyō''' ({{Sain|Ja-Tokyo.ogg|ynganiad Siapaneg}}, 東京, '''Tokyo''' neu '''Tocio''' yn Gymraeg). Fe'i lleolir yn nwyrain canolbarth ynys [[Honshu]], ar lan y [[Cefnfor Tawel]]. Daw rhannau helaeth o daleithiau cyfagos Tokyo ynghyd i ffurfio [[Ardal Tokyo Fwyaf]], un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 36 miliwn yn 2010 <ref>http://esa.un.org/unup/p2k0data.asp</ref>. Er mai ffigwr llai o tua 12 miliwn o bobl sydd yn byw yn Tokyo ei hun fe ddaw miloedd o bobl yno i weithio neu astudio yn ystod y dydd. Mae'r dref yn ganolfan wleidyddol, economeg, diwylliannol ac academaidd i'r wlad ac mae'r [[Tenno]], Ymerawdwr Japan, yn byw yng nghanol y ddinas.
 
Fw ddaw'r enw o gyfuno ''Tō-'' (dwyrain) a ''-kyō'' (prifddinas) i greu 'Prifddinas Ddwyreiniol'. Roedd prifddinasoedd eraill yn bod cyn Tokyo, er enghraifft [[Kyoto]] a [[Nara]] yn ardal [[Kansai]].
Llinell 7:
[[Delwedd:Tokyo Montage 2015.jpg|250px|bawd|Canol dinas '''Tokyo''']]
[[Delwedd:Shinjuku 8040.jpg|250px|bawd|'Ardal adloniant' [[Shinjuku]] gyda'r nos]]
Un o [[Taleithiau Japan|daleithiau Japan]] yw dinas Tokyo, ond mae strwythr go arbennig ganddi hi: 23 o wardiau arbennig gyda 8,134,688 o bobl yn byw ynddyn nhw mewn 621.3&nbsp;km², ardal sy'n cynnwys 'dinasoedd' llai a nifer o ynysoedd yn y [[Cefnfor Tawel]], rhai ohonyn nhw yn ddigon pellenig. Mae neuadd y ddinas wedi ei lleoli yn ardal brysur [[Shinjuku]].
 
[[Poblogaeth]] y ddinas gyfan yw 12,064,101 ([[2002]] a'i faint yw 2186.9&nbsp;km². Tokyo, [[Kanagawa (talaith)|Kanagawa]], [[Saitama (talaith)|Saitama]] a [[Chiba (talaith)|Chiba]] sy'n ffurfio [[Ardal Tokyo Fwyaf]], gyda tua 36 miliwn o bobl yn byw ynddi.
Llinell 13:
==Hanes==
 
Sefydlwyd Tokyo ym [[1457]] ond yr enw gwreiddiol oedd '''[[Edo]]''' (&#27743;戸). Ym [[1603]] daeth yn brif ddinas y [[Shogunat]] [[Tokugawa]], ond roedd y Tenno yn dal i fod yn [[Kyoto]], gwir brifddinas y wlad. Daeth y Shogunat i ben ym [[1868]] a gorchmynnodd [[Meiji Tenno]] i newid enw y dref i Tokyo a symud y brif ddinas yno.
 
Ym [[1923]] tarodd [[daeargryn]] mawr yn yr ardal a laddwyd tua 100,000 o bobl a dinistrio llawer o adeiladau. Cafodd y dref ei hail-adeiladu ond fe'i dinistrwyd eto yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]]. Ar ôl hynny daeth Japan dan reolaeth [[yr Unol Daleithiau]] a roedd Tokyo yn bencadlys o dan [[Douglas MacArthur|y Cadfridog Douglas MacArthur]].
 
Ar ôl y rhyfel tyfodd yr economi yn gyflym. Ym [[1964]] cynhaliwyd y [[Gemau Olympaidd]] yn y ddinas. Ers y [[1970au]] mae llawer o bobl wedi symud i Tokyo o gefn gwlad Japan ac yn ystod [[bwrlwm economaidd]] yr [[1980au]] roedd hi'n ddinas fywiog yn llawn siopau, tafarndai, busnesau ac fe adeiladwyd tai ledled y ddinas. Daeth y bwrlwm economaidd i ben yn y [[1990au]], ond er hynny mae Tokyo yn ganolfan economaidd pwysig i [[Dwyrain Asia|ddwyrain Asia]] a gweddill y byd.
 
Ar [[20 Mawrth]] [[1995]] bu ymosodiad terfysgol gan ddefnyddio [[nwy nerfau]] [[Sarin]] mewn trên tanddaearol gan [[Aum Shinrikyo]]. Cafodd 12 o bobl eu lladd a miloedd yn dioddef canlyniadau'r ymosodiad.
Llinell 32:
== Daearyddiaeth ==
 
Mae Tokyo yn cynnwys ardal ar [[Honshu]], ynys fwyaf [[Japan]] a nifer o ynysoedd bychain ([[Ynysoedd Izu]] ac [[Ynysoedd Ogasawara]]) ym [[Bae Tokyo|Mae Tokyo]] a'r [[Cefnfor Tawel]], rhai ohonyn mor bell a 1,000&nbsp;km o'r tir mawr. Y taleithiau cyfagosaf ac sydd hefyd yn rhan o [[Ardal Tokyo Fwyaf]] yw [[Kanagawa (talaith)|Kanagawa]], [[Saitama (talaith)|Saitama]] a [[Chiba (talaith)|Chiba]].
 
===Wardiau===
Llinell 126:
== Economeg ==
 
Canolbarth economeg Siapan yw Tokyo. Lleoliad pencadlysoedd y mwyafrif o fusnesau fel y wasg, teledu, telethrebiaeth, bancio, yswiriant, ac ati, yw Tokyo ac mae'r mwyafrif o fusnesau tramor yn y dref, hefyd.
 
=== Busnesau gyda phencadlys yn Tokyo ===
Llinell 190:
 
{{eginyn Japan}}
 
 
 
 
[[Categori:Tokyo| ]]