Malakand: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
kic
B →‎top: clean up
Llinell 2:
Rhanbarth hanesyddol yw '''Malakand''' ([[Wrdw]]: مالاکنڈ) a leolir yn [[Khyber Pakhtunkhwa]], [[Pakistan]]. Mae'n cynnwys tua traean o diriogaeth y dalaith ac yn cyfateb yn fras i'r hen Asiantaeth Malakand o gyfnod y Raj. Rhennir y rhanbarth yn sawl dosbarth ac ardal, yn cynnwys [[Dir]], [[Swat]], [[Buner]], [[Shangla]], [[Malakand (dosbarth)|Dosbarth Malakand]], [[Muhmand]], a hefyd [[Chitral]] (yn draddodiadol: ond prin y cyfeirir ato fel rhan o Falakand ym Mhacistan heddiw),
 
Yn ddiweddar mae rhan fawr o Falakand wedi dod dan reolaeth y gwrthryfelwyr [[Islamiaeth|Islamig]] [[Tehreek-e-Nafaz-e-Shariat-e-Mohammadi]], cynghreiriaid y [[Taliban]]. Sefydlwyd cyfraith [[Sharia]] ym Malakand gan y Taliban a chadarnheuwyd hynny gan y ddeddf Nizam-e-Adl 2009, a basiwyd fel rhan o gytundeb rhwng y llywodraeth ganolog a'r gwrthryfelwyr, i wneud Sharia yn gyfreithlon ym Malakand.
 
Yn Ebrill a Mai 2009 gwelwyd ymladd difrifol rhwng [[Byddin Pacistan]] a'r [[Taliban]] a'u cefngowyr ar draws rhanbarth Malakand, yn enewdig yn [[Dir]] a [[Swat]]. Dros yr ardal gyfan roedd rhai cannoedd o filoedd o bobl wedi cael eu disodli gan yr ymladd ac roedd cyrffiw yn cael ei weithredu.<ref>[http://www.dawn.com/wps/wcm/connect/dawn-content-library/dawn/news/pakistan/provinces/09-clashes-curfews-and-displacement-across-malakand-region-szh--07 "Clashes, curfews and displacement across Malakand"] Dawn News (Pacistan), 08.05.2009.</ref>