Mynydd Chomolungma: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Gweler hefyd: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|de}} using AWB
B clean up
Llinell 13:
 
== Enwi ==
Enwau hynafol y mynydd yn y [[Sansgrit]] yw '''Devgiri''' ("Mynydd Sanctaidd") a '''Devadurga'''. '''Chomolungma''' neu '''Qomolangma''' ("Mam y Bydysawd") yw'r enw [[Tibeteg]], a '''Zhūmùlǎngmǎ Fēng''' (珠穆朗玛峰 neu 珠穆朗瑪峰) neu '''Shèngmǔ Fēng''' (圣母峰 neu 聖母峰) yw'r enw [[Tsieineeg]] perthynol. Yn y [[Nepaleg]] fe'i gelwir yn '''Sagarmatha''' (सगरमाथा), "Pen yr Awyr".
 
Ym [[1865]], rhoddwyd yr enw [[Saesneg]] '''Everest''' ar y mynydd gan [[Andrew Scott Waugh|Andrew Waugh]], [[Uwch-Arolygydd India]] ar y pryd. Yn eironig, roedd Syr [[George Everest]], a enwyd y mynydd ar ei ôl, wedi dysgu Waugh i roi enwau cynhenid neu frodorol i bob endid daearyddol, ond doedd ddim modd i estronwyr teithio i Nepal nac i [[Tibet]] ar y pryd. Dyma dywedodd Waugh:
Llinell 20:
</blockquote>
 
Yn y [[1960au]] cynar, sylweddolodd llywodraeth [[Nepal]] nad oedd enw Nepaleg gan y mynydd. Y rheswm am hyn yw nad oedd pobl yr ardaloedd draddodiadol Nepaleg (hynny yw, [[Dyffryn Kathmandu]] a'r ardaloedd cyfagos) yn gyfarwydd â'r mynydd. Ceisiodd y llywodraeth ddarganfod enw i'r mynydd (doedd yr enw [[Sherpa]]/Tibeteg ''Chomolangma'' ddim yn dderbyniol iddynt, gan eu bod yn ceisio uno a "Nepaleiddio'r" wlad) . Dyfeiswyd yr enw '''Sagarmatha''' (सगरमाथा) gan [[Baburam Acharya]].
 
Yn [[2002]], cyhoeddodd y papur newydd Tseinëeg ''[[Rénmín Rìbào]]'' erthygl yn dadlau na ddylid defnyddio'r enw Saesneg yn y [[byd Gorllewinol]] mwyach, ac y dylid defnyddio'r enw Tibeteg. Dadlent fod yr enw hwnnw'n hŷn na'r un Saesneg, gan i Qomolangma gael ei nodi ar fap Tseinëig mwy na 280 mlynedd yn ôl.<ref>[http://english.people.com.cn/200211/19/eng20021119_107017.shtml Web Reference]</ref>
 
== Dringo'r mynydd ==
Bu nifer o ymdrechion i gyrraedd y copa cyn yr [[Ail Ryfel Byd]], y cyfan ond un ohonynt gan dimau Prydeinig, gan nad oedd caniatâd i ddringo'r mynydd o ochr Tibet a bod Nepal yn rhan o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]]. Yn ystod un o'r rhain, yn [[1924]], diflannodd [[George Mallory]] ac [[Andrew Irvine (mynyddwr)|Andrew Irvine]] wrth geisio cyrraedd y copa, a bu awgrymiadau eu bod efallai wedi cyrraedd y copa ond wedi marw ar y ffordd i lawr. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw na allent fod wedi cyrraedd y copa. Yn [[1999]] cafwyd hyd i gorff Mallory ar y mynydd.
 
Y cyntaf i gyrraedd y copa oedd [[Edmund Hillary]] a [[Tenzing Norgay]] ar [[29 Mai]], [[1953]]. Ers hynny mae cryn nifer o ddringwyr wedi cyrraedd y copa; mae'r mynydd yn haws yn dechnegol na rhai o'r copaon 8,000 medr eraill megis [[K2]] a [[Nanga Parbat]]. Er hynny, mae uchder y mynydd yn creu problemau mawr, ac am flynyddoedd ystyrid fod yn rhaid cael [[ocsigen]] ychwanegol i'w ddringo. Fodd bynnag yn [[1978]] dringodd [[Reinhold Messner]] a [[Peter Habeler]] y mynydd heb ddefnyddio ocsigen ychwanegol.
Llinell 42:
 
{{Bathu termau|termau_bathedig = Uwch-Arolygydd India|termau_gwreiddiol = Surveyor-General of India|iaith = [[Saesneg]]}}
 
 
 
[[Categori:Himalaya]]