Moscfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
Yn dileu "MIBC2016.jpg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan INeverCry achos: Per c:Commons:Deletion requests/Files uploaded by GURken.
B clean up
Llinell 20:
 
[[Delwedd:St Basils Cathedral-500px.jpg|bawd|de|300px|Eglwys Gadeiriol Sant Basil, Moscfa]]
Prifddinas [[Rwsia]] yw '''Moscfa''' (hefyd: '''Moscow''' neu '''Mosgow'''; ''Москвá'', sef ''Moscfa'' yn [[Rwsieg]]). Mae tua 11.2 miliwn o bobl yn byw yn y ddinas ([[2004]]) ac mae ei phoblogaeth yn cynyddu bron bob dydd. Mae'r dref ar lan [[Afon Moscfa]] a thua 878.7 km sgwar o arwynebedd.
 
Lleolir Moscfa yn nhalaith [[Canol Rwsia]] yn Rwsia Ewropeaidd. Prifddinas yr [[Undeb Sofietaidd]] oedd hi gynt a hefyd o [[Muscovy]], gwladwriaeth Rwsiaidd fodern gyntaf, cyn sefydliad [[Ymerodraeth Rwsia]]. Mae'r [[Kremlin Moscfa|Kremlin]], sedd llywodraeth genedlaethol Rwsia, a'r [[Sgwâr Coch]] yn Moscfa.
 
Lleolir y dref yn yr ardal ranbarthol a enwir Canol Rwsia sydd mewn gwirionedd yng ngorllewin Rwsia. Roedd hi'n brif ddinas yr [[Undeb Sofietaidd]] a hefyd o [[Muscvy]] y Rwsia cyn-ymerodraethol. Mae'r Kremlin sy'n gwasanaethu fel safle y llywodraeth genedlaethol wedi ei leoli yn y ddinas.
Llinell 28:
== Hanes ==
 
Cyfeirir at y dref mewn dogfennau am y tro cyntaf ym [[1147]]. Ar y pryd roedd hi'n dref fechan, ond ym [[1156]] adeiladwyd mur pren a ffos o gwmpas y dref gan y tywysog [[Yury Dolgoruky]]. Er hynny, llosgwyd y dref a lladdwyd ei phobl ym [[1177]]. Rhwng [[1237]] a [[1238]] meddiannodd y [[Mongoliaid]] y dref a'i llosgi a llofruddio'i thrigolion unwaith eto. Ar ôl y cyfnod hwnnw, cryfhaodd y dref eto a daeth yn brifddinas [[tywysogaeth]] annibynnol.
 
Ym [[1300]] roedd y [[Daniel o Moscow|Tywysog Daniel]], mab [[Alexander Nevsky]] yn rheoli'r dref mewn enw, ond roedd y dref o dan reolaeth y Mongoliaid mewn gwirionedd. Fodd bynnag, roedd nerth [[Ymerodraeth Lithiwania]] yn cynyddu ac - er mwyn gwrthbwyso hynny - rhoddodd [[Khan]] y Mongoliaid rym arbennig i Moscow. Fel hynny, cyfododd Moscow i fod yn un o'r drefi fwyaf nerthol yn Rwsia.
 
O [[1480]] ymlaen, dan reolaeth [[Ifan III o Rwsia|Ifan III]], roedd Rwsia yn wlad annibynnol ac yn tyfu i fod yn ymerodraeth fawr a oedd yn cynnwys Rwsia, [[Siberia]] a nifer o ardaloedd eraill. Er bod nifer o [[tsar]]iaid, er enghraifft [[Ifan yr Ofnadwy]], yn ormeswyr, parheai'r ymerodraeth i dyfu.
 
Ym [[1571]], cipiodd [[Tartariaid]] [[Crimea]], dan [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]], y dref a'i llosgi. Rhwng [[1605]] a [[1612]] meddianai lluoedd [[Gwlad Pwyl]] y dref. Bwriad y Pwyliaid oedd sefydlu llywodraeth newydd yn Rwsia gyda chysyltiad cryf â Gwlad Pwyl. Fodd bynnag, gwrthryfelodd mawrion Rwsia yn erbyn Gwlad Pwyl yn [[1612]], ac yn [[1613]] daeth [[Michael Romanov]] yn tsar ar ôl etholiad. Fel hynny dechreuodd hanes y deyrnlin [[Romanov]].
 
Roedd Moscow yn brifddinas Rwsia cyn sefydlu [[St Petersburg]] ar lan y [[Môr Baltig]] gan [[Pedr Fawr]] yn [[1700]].
Llinell 40:
Ym [[1812]] ceisiodd [[Napoleon I o Ffrainc|Napoleon]] oresgyn Rwsia a llosgodd trigolion Moscow eu dinas eu hynain ar 14 Medi 1812 a ffoi ohoni. Ond bu rhaid i luoedd Napoleon adael y ddinas oherwydd y tywydd eithafol o oer a phrinder bywyd.
 
Ers [[Chwyldro Rwsia]] ym [[1917]] Moscow yw prifddinas Rwsia. Symudodd llywodraeth [[Lenin]] i'r ddinas ar [[5 Mawrth]], [[1918]].
 
Ym mis Mehefin [[1941]], ymosododd lluoedd yr Almaen ar Rwsia ([[Ymgyrch Barbarossa]]) ac anelodd un o'r dair adran y fyddin am Moscow. Ar ôl [[Brwydr Moscow]], gorfodwyd yr Almaenwyr, a oedd yn dioddef o [[llosg eira|losg eira]] yr eira trwm, i droi yn eu holau. O'r herwydd, "Dinas yr Arwyr" yw llysenw Moscow ers yr [[Ail Rhyfel Byd]].
Llinell 56:
 
{{Prifddinasoedd Ewrop}}
 
 
 
 
[[Categori:Moscfa| ]]