Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Nanga Parbat"

Lleihawyd o 3 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g using AWB)
B (→‎top: clean up)
}}
 
'''Nanga Parbat''' (gelwir hefyd '''Diamir''') yw'r mynydd ail-uchaf ym [[Pacistan|Mhacistan]] a'r nawfed ar y ddaear o ran uchder. Ystyr yr enw Nanga Parbat yw "Mynydd Noeth" yn yr iaith [[Wrdw]]/[[Hindi]]. Ystyrir Nanga Parbat yn fynydd peryglus i'w ddringo, ac yn hanner cyntaf yr [[20g]] bu farw nifer fawr o ddringwyr ar y mynydd. Nanga Parbat yw'r mwyaf gorllewinol o'r copaon dros 8,000 medr yn yr [[Himalaya]].
 
Gwnaed yr ymdrech gyntaf i ddringo'r mynydd yn 1895 pan gyrhaeddodd ymgyrch dan arweiniaid [[Albert F. Mummery]] uchder o bron 7,000 m, ond bu farw Mummery a dau gydymaith ar y mynydd yn ddiweddarch. Yn y 1930au bu chwech ymgais i ddringo'r mynydd gan dîmau Almaenig, ond methu a wnaeth y cafan a bu farw dwsinau o ddringwyr. Cyrhaeddwyd y copa am y tro cyntaf ar [[3 Gorffennaf]], [[1953]] gan fynyddwr o [[Awstria]], [[Hermann Buhl]]. Mae'r modd y dringodd Buhl ar ei ben ei hun i'r copa, ac yna treulio noson ar ei sefyll ar y mynydd ar y ffordd i lawr, yn un o straeon mawr mynydda.
 
Dringwyd y mynydd am yr ail dro yn 1962 gan dri Almaenwr, [[Toni Kinshofer]], [[S. Löw]], ac [[A. Mannhardt]]. Yn [[1970]] cyrhaeddodd [[Reinhold Messner|Reinhold]] a Günther Messner y copa; ond bu farw Günther ar y ffordd i lawr. Dringodd Reinhold y mynydd ar ei ben ei hun yn 1978. Yn 1984, [[Lilliane Barrard]] o Ffrainc oedd y ferch gyntaf i gyrraedd y copa.
 
{{Copaon 8,000 medr}}
450,625

golygiad