Bali: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 5:
Mae'n ynys weddol fechan o'i chymharu a rhai o ynysoedd eraill Indonesia, 5,632.86 km², gyda poblogaeth o 3,151,000 yn [[2005]]. Y brifddinas yw [[Denpasar]], ac ymysg dinasoedd pwysig eraill mae [[Singaraja]] ar yr arfordir gogleddol ac [[Ubud]] sy'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid sydd a diddordeb yn niwylliant yr ynys. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ynysoedd eraill Indonesia, lle mae dilynwyr [[Islam]] yn y mwyafrif, mae'r rhan fwyaf (93%) o drigolion Bali yn ddilynwyr [[Hindwaeth]], neu yn hytrach gymysgedd o Hindwaeth a [[Bwdhaeth]] gyda elfennau lleol. Y mynydd uchaf yw [[Mynydd Agung]] ([[Indoneseg]]: ''Gunung Agung''), 3,142 m (10,308 troedfedd) o uchder; llosgfynydd sy'n dal yn fyw ac yn ffrwydro o dro i dro.
 
Enillodd yr ynys enwogrwydd byd eang am ei diwylliant a'i chrefftau, yn cynnwys arlunio, cerflunio, dawns a cherddoriaeth. Mae'n gyrchfan boblogaidd iawn i dwristaid, er i'r diwydiant yma gael ei effeithio'n ddifrifol gan y bomiau a ffrwydrodd ar [[12 Hydref]] [[2002]] yn [[Kuta]], un o'r trefi arfordirol sy'n dibynnu ar dwristiaeth. Lladdwyd 202 o bobl. Bu ymosodiad arall ar raddfa lai yn [[2005]].
 
[[Delwedd:Bali Labeled.png|bawd|chwith|200px|Ynys Bali]]