Sulawesi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Sulawesi map.PNG|bawd|250px|Sulawesi]]
 
Mae '''Sulawesi''' (gynt '''Celebes''') yn un o ynysoedd mwyaf [[Indonesia]]. Efallai fod yr enw yn dod o ''sula'' ('ynys') a ''besi'' ('haearn').
 
Mae nifer o grwpiau ethnig ar yr ynys; y [[Bugis]] yw'r mwyaf niferus. Cyrhaeddodd morwyr o [[Portiwgal|Bortiwgal]] yn [[1525]], ac yn ddiweddarach daeth yr ynys yn rhan o ymerodraeth [[yr Iseldiroedd]] cyn dod yn rhan o Indonesia. Gydag arwynebedd o 174,600 km², Sulawesi ydyw'r unfed ynys ar ddeg yn y byd o ran maint. Mae ynys [[Borneo]] i'r gorllewin, [[y Ffilipinau]] i'r gogledd, [[Maluku]] i'r dwyrain, a [[Flores (Indonesia)|Flores]] a [[Timor]] i'r de. Rhennir yr ynys yn chwe thalaith: [[Gorontalo (talaith)|Gorontalo]], [[Gorllewin Sulawesi]], [[De Sulawesi]], [[Canol Sulawesi]], [[De-ddwyrain Sulawesi]] a [[Gogledd Sulawesi]]. Dim ond yn [[2004]] y crewyd Gorllewin Sulawesi, o ran o Dde Sulawesi. [[Makassar]] a [[Manado]] ydyw'r dinasoedd mwyaf.