Gweriniaeth Rhufain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Yn y cyfnod cynnar, [[Teyrnas Rhufain|brenhinoedd]] oedd yn rheoli Rhufain. Diorseddwyd yr olaf o'r rhain, [[Tarquinius Superbus]], tua [[509 CC]]. Dan y drefn newydd, roedd dau [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.
 
Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr [[Etrwsciaid]]. Yn ail hanner y [[3edd ganrif CC]], dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas [[Carthago]] yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd [[Hannibal]] ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan [[Scipio Africanus]]. wediWedi gorchfygu [[Macedonia]] yn yr [[2il ganrif CC]], Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas [[Môr y Canoldir]].
 
Datblygodd terfysgoedd mewnol yn ystod y [[Ganrif 1af CC]], gydag ymryson rhwng [[Gaius Marius]] a [[Lucius Cornelius Sulla]], yna gytundeb i rannu grym rhwng [[Iŵl Cesar]], [[Gnaeus Pompeius]] a [[Marcus Licinius Crassus]]. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu [[rhyfel cartref]], gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn [[44 CC]] llofruddiwyd ef gan aelodau o'r [[Senedd Rhufain|senedd]] oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref arall rhwng y bobl hyn, dan arweiniad [[Gaius Cassius Longinus]] a [[Marcus Junius Brutus]]. a chefnogwyr Cesar gan arweiniad [[Marcus Antonius]] a gor-nai Cesar, [[Augustus|Octavianus]] (a newidiodd ei enw i "Augustus" yn ddiweddarach). Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]], daeth