Romulus a Remus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: hr:Romul
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:She-wolf_suckles_Romulus_and_Remus.jpg|300px|bawd|'''Romulus a Remus''' yn cael eu sugno gan y fleiddes]]
Yn ôl y [[Mytholeg|chwedl]], sefydlwyr dinas [[Rhufain]] a thrwy estyniad [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] oedd '''Romulus a Remus'''. Efeilliaid oeddynt, meibion [[Ares|Mars]] a [[Rhea Silvia]], merch chwedlonol [[Numitor]], brenin [[Alba Longa]]. Cafodd yr efeilliaid ifainc eu taflu i [[Afon Tiber]] gan [[Amulius]], oedd wedi diorseddu Numitor. Cawsant eu golchi i'r lan a'u magu gan [[Blaidd|fleiddes]]. Yn ddiweddarach fe'u darganfuwyd gan [[bugail|fugail]] a'u mabwysiadu ganddo.
 
Yn nes ymlaen sefydlasant ddinas Rhufain ar y llecyn lle cawsant eu golchi i'r lan. Cododd Romulus y ddinas ar [[allt Palatein]]. Y dyddiad traddodiadol am ei sefydlu ganddo yn y [[calendr]] Rhufeinig oedd [[21 Ebrill]], [[753 CC]]. Romulus oedd [[brenin]] cyntaf Rhufain.