Gweriniaeth Rhufain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Llinell 9:
Datblygodd terfysgoedd mewnol yn ystod y [[Ganrif 1af CC]], gydag ymryson rhwng [[Gaius Marius]] a [[Lucius Cornelius Sulla]], yna gytundeb i rannu grym rhwng [[Iŵl Cesar]], [[Gnaeus Pompeius]] a [[Marcus Licinius Crassus]]. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu [[rhyfel cartref]], gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn [[44 CC]] llofruddiwyd Cesar gan aelodau o'r [[Senedd Rhufain|senedd]] oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref arall rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad [[Gaius Cassius Longinus]] a [[Marcus Junius Brutus]], a chefnogwyr Cesar dan arweiniad [[Marcus Antonius]] a gor-nai Cesar, [[Augustus|Octavianus]] (a newidiodd ei enw i "Augustus" yn ddiweddarach). Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]], daeth
Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.
 
[[Image:Roman Republic-44BC.png|bawd|chwith|180px|Taleithiau Rhufeinig yn 44 CC.]]
 
Ni ellir rhoi dyddiad pendant ar gyfer diwedd y Weriniaeth. Llwyddodd Augustus i gipio'r grym gwirioneddol i gyd i'w ddwylo ei hun, ond gwnaeth hynny mewn dull oedd yn cadw llawer o ffurfiau'r Weriniaeth, megis y Senedd a'r ddau gonswl. Ei deitl swyddogol oedd ''[[princeps]]'', yn yr ystyr o'r "dinesydd cyntaf". Un dyddiad posibl sy'n nodi diwedd y Werimiaeth a dechrau'r Ymerodraeth yw [[16 Ionawr]] [[27 CC]], pan bleidleisiodd y senedd i roi pwerau eithriadol i Augustus.