Arwystli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cantref yn ne Teyrnas Powys (gorllewin canolbarth Powys heddiw) oedd '''Arwystli'''. Mae'n enw sy'n fyw o hyd; fe'i gwelir yn yr enw lle 'Pen Pumlumon Arwystli', un o bum...
 
Llinell 8:
 
==Hanes==
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Arwystli gan Arwystl, un o feibion tybiedig [[Maelgwn Gwynedd]], ond mae'n bosibl mai chwedl onomastig a ddyfeisiwyd yn yr Oesoedd Canol i esbonio'r enw yw'r traddodiad hwnnw.
 
Ar wahanol adegau bu ymgiprys am reolaeth ar Arwysli rhwng [[Deheubarth]], [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a theyrnas Powys ei hun. Fel yn achos Cyfeiliog, hawliwyd Arwystli gan dywysogion Deheubarth. Ond bu gan Arwystli gysylltiadau cryf â theyrnas Gwynedd hefyd. Yn yr [[11eg ganrif]] daeth yn rhan o [[Esgobaeth Bangor]], ac roedd ei rheolwyr lleol yn tueddu i edrych at [[Aberffraw]] a [[Bangor]] am arweiniad yn hytrach na [[Mathrafal]] a [[Llanelwy]].
 
Yn y [[13eg ganrif]] bu hawl [[Llywelyn ap Gruffudd]] i Arwystli yn ffactor amlwg yn yr anghydfod rhyngddo ac [[Edward I o Loegr]] yn y cyfnod o 1277 hyd 1282, gan fod [[Teyrnas Lloegr|Coron Lloegr]] yn cefnogi ei deiliad [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]].
 
Mwynheai [[Owain Glyndŵr]] gefnogaeth gref yn Arwystli. Roedd yn gadarnle pwysig iddo yn ei wrthryfel. Ymladdwyd un o frwydrau mawr y gwrthryfel ar lethrau [[Pumlumon]] yn [[1402]], pan guriwyd llu Seisnig ym [[Brwydr Hyddgen|Mrwydr Hyddgen]].
 
==Ffynonellau==