Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Arwystli"

Ychwanegwyd 299 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
→‎Hanes: ehangu
(→‎Hanes: ehangu)
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Arwystli gan Arwystl, un o feibion tybiedig [[Maelgwn Gwynedd]], ond mae'n bosibl mai chwedl onomastig a ddyfeisiwyd yn yr Oesoedd Canol i esbonio'r enw yw'r traddodiad hwnnw.
 
Ar wahanol adegau bu ymgiprys am reolaeth ar Arwysli rhwng [[Deheubarth]], [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a theyrnas Powys ei hun. Fel yn achos Cyfeiliog, hawliwyd Arwystli gan dywysogion Deheubarth. Ond bu gan Arwystli gysylltiadau cryf â theyrnas Gwynedd hefyd. Yn yr [[11eg ganrif]] daeth yn rhan o [[Esgobaeth Bangor]], ac roedd ei rheolwyr lleol yn tueddu i edrych at [[Aberffraw]] a [[Bangor]] am arweiniad yn hytrach na [[Mathrafal]] a [[Llanelwy]]. Yn ail hanner y ganrif honno, ymledodd [[Trahaearn ap Caradog]] ei awdurdod dros ran helaeth o ogledd a gorllewin Cymru. Daeth yn frenin Gwynedd ond fe'i trechwyd gan [[Gruffudd ap Cynan]] o Wynedd a [[Rhys ap Tewdwr]] o Ddeheubarth a'i ladd ym [[Brwydr Mynydd Carn|Mrwydr Mynydd Carn]] ([[1081]]).
 
Yn y [[13eg ganrif]] bu hawl [[Llywelyn ap Gruffudd]] i Arwystli yn ffactor amlwg yn yr anghydfod rhyngddo ac [[Edward I o Loegr]] yn y cyfnod o 1277 hyd 1282, gan fod [[Teyrnas Lloegr|Coron Lloegr]] yn cefnogi ei deiliad [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]].