Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Arwystli"

Ychwanegwyd 154 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
→‎Hanes: ehangu
(→‎Hanes: ehangu)
(→‎Hanes: ehangu)
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Arwystli gan Arwystl, un o feibion tybiedig [[Maelgwn Gwynedd]], ond mae'n bosibl mai chwedl onomastig a ddyfeisiwyd yn yr Oesoedd Canol i esbonio'r enw yw'r traddodiad hwnnw.
 
Ar wahanol adegau bu ymgiprys am reolaeth ar ArwysliArwystli rhwng [[Deheubarth]], [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a theyrnas Powys ei hun. Fel yn achos Cyfeiliog, hawliwyd Arwystli gan dywysogion Deheubarth. Ond bu gan Arwystli gysylltiadau cryf â theyrnas Gwynedd hefyd. Yn yr [[11eg ganrif]] daeth yn rhan o [[Esgobaeth Bangor]], ac roedd ei rheolwyr lleol yn tueddu i edrych at [[Aberffraw]] a [[Bangor]] am arweiniad yn hytrach na [[Mathrafal]] a [[Llanelwy]]. Yn ail hanner y ganrif honno, ymledodd [[Trahaearn ap Caradog]] ei awdurdod dros ran helaeth o ogledd a gorllewin Cymru. Daeth yn frenin Gwynedd ond fe'i trechwyd gan [[Gruffudd ap Cynan]] o Wynedd a [[Rhys ap Tewdwr]] o Ddeheubarth a'i ladd ym [[Brwydr Mynydd Carn|Mrwydr Mynydd Carn]] ([[1081]]).
 
Yn ail hanner y [[12fed ganrif]] daeth y cantref i feddiant [[Owain Cyfeiliog]] a dan ei fab [[Gwenwynwyn]] bu'n rhan o dywysogaeth [[Powys Wenwynwyn]]. Yn y [[13eg ganrif]] bu hawl [[Llywelyn ap Gruffudd]] i Arwystli yn ffactor amlwg yn yr anghydfod rhyngddo ac [[Edward I o Loegr]] yn y cyfnod o 1277 hyd 1282, gan fod [[Teyrnas Lloegr|Coron Lloegr]] yn cefnogi ei deiliad [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]].
 
Mwynheai [[Owain Glyndŵr]] gefnogaeth gref yn Arwystli. Roedd yn gadarnle pwysig iddo yn ei wrthryfel. Ymladdwyd un o frwydrau mawr y gwrthryfel ar lethrau [[Pumlumon]] yn [[1402]], pan guriwyd llu Seisnig ym [[Brwydr Hyddgen|Mrwydr Hyddgen]].