Nant Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cerdd
Llinell 5:
Gorweddai cmwmd Nant Conwy yn rhan ddeheuol [[Dyffryn Conwy]] rhwng cyffiniau [[Maenan]] yn y gogledd a [[Llyn Conwy]] yn y de. Roedd yn cynnwys rhan uchaf Dyffryn Conwy, Dyffryn [[afon Llugwy|Llugwy]], [[Dyffryn Lledr]] a [[Cwm Penmachno]]. Rhedai ei ffin ddwyreiniol ar hyd glannau afon Conwy o Faenan trwy [[Llanrwst]] i [[Betws-y-Coed|Fetws-y-Coed]] ac i fyny i'r de-ddwyrain i ardal [[Ysbyty Ifan]] ac yna [[Llyn Conwy]]; dyma'r ffin draddodiadol rhwng [[Gwynedd Uwch Conwy]] a [[Gwynedd Is Conwy]] neu'r [[Berfeddwlad]] yn ogystal. Yr ochr arall i'r ffin gorweddai cwmwd [[Uwch Dulas]], cantref [[Rhos]], ac [[Is Aled]] ([[Rhufoniog]]). O Lyn Conwy i gyfeiriad y gorllewin, dynodid y ffin gan y bryniau rhwng [[Cwm Penmachno]] a [[Ffestiniog]], gydag [[Ardudwy]] i'r de, ac yna roedd yn troi i'r gogledd i gynnwys y bryniau uwch [[Nant Gwynant]] hyd [[Pen-y-gwryd]], ar y ffin ag [[Arfon]], ac ymlaen hyd [[Dyffryn Mymbyr]] i [[Capel Curig|Gapel Curig]], gan rannu ffin ag [[Arllechwedd Uchaf]]. Roedd llinell rhwng [[Creigiau Gleision]] a Maenan yn dynodi'r ffin ag [[Arllechwedd Isaf]].
 
Ardal goediog iawn oedd y Nant, fel y mae hi heddiw. Roedd [[Coedwig Gwydir]] yn noddfa i herwyr fel [[Dafydd ap Siencyn]] a [[Rhys Gethin]]. Mae [[cywydd]] o awduraeth ansicr (gan [[Iolo Goch]] efallai) yn canmol Rhys Gethin fel ceidwad Nant Conwy hardd yn erbyn gormes yr estronwyr:
 
:A chadw yn brif warcheidwad
:Nanconwy, mygr ofwy mad.
:Milwr yw â gwayw melyn
:Megis Owain glain y Glyn.<ref>Henry Lewis ac eraill (gol.), ''Cywyddau Iolo Goch ac eraill'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], arg. newydd, 1937).</ref>
 
Cynwysai'r cwmwd un o gestyll pwysicaf tywysogion Gwynedd, sef [[Castell Dolwyddelan]] yn Nyffryn Lledr. Cynwysai yn ogystal sawl ganolfan eglwysig yn cynnwys [[Penmachno]] lle ceir meini Cristnogol cynnar, [[Betws-y-Coed]] a [[Llanrhychwyn]]. Roedd yr olaf yn gwasanaethu fel eglwys [[Trefriw]], safle prif lys y cwmwd yn oes [[Llywelyn Fawr]]. Roedd y "trefi" canoloesol pwysicaf yn cynnwys Trefriw, [[Castell Gwydir|Gwydir]], Cwm Llannerch, [[Dolwyddelan]] ac Eidda, yn ogystal ag [[Ysbyty Ifan]]. Y llwybrau pwysicaf oedd y rhai a arweiniai o ardal Betws i gyfeiriad Capel Curig, i fyny Dyffryn Lledr a thros [[Bwlch Gorddinan]] i Arwystli, ac o Ddolwyddelan i Nant Gwynant.
Llinell 18 ⟶ 23:
*[[Trefriw]]
 
==Cyfeiriadau==
==Ffynonellau a darllen pellach==
<references/>
 
==Darllen pellach==
*[[A. D. Carr]], 'Medieaval Administrative Districts', yn ''Atlas of Caernarvonshire'' (Caernarfon, 1974)
*E. D. Rowlands, ''Dyffryn Conwy a'r Creuddyn'' (Gwasg y Brython, 1947)