Afon Rhein: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
Yn gosod File:RheinBeiRüdesheim2008Video.ogv yn lle RheinBeiRüdesheim2008Video.ogg (gan CommonsDelinker achos: File renamed: Wrong extension (img_media_type=VIDEO/ogv)).
B clean up
Llinell 4:
Gellir defnyddio llongau ar 883 km o'i hyd, ac o'r herwydd mae o bwysigrwydd economaidd mawr. Mae'n llifo trwy'r [[y Swistir|Swistir]], [[Awstria]], [[yr Almaen]] a'r [[Iseldiroedd]], ac yn ffurfio'r ffîn rhwng un neu fwy o'r gwledydd hyn â [[Ffrainc]] a [[Liechtenstein]].
 
Mae dalgylch y Rhein yn 198,735 km², yn cynnwys y cyfan o [[Luxembourg]] a thannau llai o [[Gwlad Belg|Wlad Belg]] a'r [[Eidal]] yn ogystal a'r gwledydd uchod.
 
== Daearyddiaeth ==
Llinell 30:
[[Delwedd:Afvoerverdeling rijn.jpg|bawd|chwith|220px|Ymraniad dyfroedd y Rhein ger Arnhem a Nijmegen yn yr Iseldiroedd]]
 
Mae'r afon yn awr yn cyrraedd [[yr Iseldiroedd]], lle mae'n ffurfio delta mawr gydag [[afon Meuse]] ac [[afon Scheldt]]. Ceir rhwydwaith cymhleth o afonydd a chamlesi yma. Ychydig i'r dwyrain o [[Nijmegen]] ac [[Arnhem]] mae'r Rhein yn ymrannu'n ddwy gangen, [[afon Waal]] a'r [[Pannerdensch Kanaal]]. Mae dwy ran o dair o'r dŵr yn llifo i afon Waal, yna trwy'r [[Merwede]] a'r [[Nieuwe Merwede]] cyn ymuno a'r Meuse ac ymlaen i'r môr. Mae'r [[Beneden Merwede]] yn gadael y brif afon i barhau fel [[afon Noord]], yna'n ymuno ag [[afon Lek]] i ffurfio'r [[Nieuwe Maas]], sy'n llifo heibio [[Rotterdam]] i'r môr. Mae'r [[Oude Maas]] yn gadael y brif afon ger [[Dordrecht]], cyn ail-ymuno a'r [[Nieuwe Maas]] i ffurfio [[Het Scheur]].
 
Llifa'r traean arall o'r dŵr trwy'r Pannerdensch Kanaal, sy'n llifo i mewn i ddwy afon, y [[Nederrijn]] ("Rhein isaf") a'r [[Afon IJssel|IJssel]]. Llifa'r Nederrijn tua'r gorllewin, gan ddiweddu gerllaw [[Wijk bij Duurstede]]; oddi yno gelwir y brif afon yn [[Afon Lek]], sy'n ymuno ag afon Noord. Llifa'r dŵr yn afon IJssel i'r gogledd-ddwyrain i mewn i'r [[IJsselmeer]].