Afon Tay: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:St. Matthew's Church and Smeaton's Bridge.jpg|bawd|220px|Afon Tay yn ninas [[Perth]].]]
 
'''Afon Tay''' ([[Gaeleg yr Alban]]: ''Tatha'') yw afon hwyaf [[yr Alban]], 193 km (120 milltir) o hyd. Hi yw afon fwyaf Prydain o ran llif y dŵr, 170 m³ yr eiliad. Mae'n tarddu yn [[Ucheldiroedd yr Alban]] ac yn llifo trwy Strathtay a thrwy ganol dinas [[Perth]] i gyrraedd y môr ym [[Moryd Tay]] ar arfordir dwyreiniol yr Alban, i'r de o ddinas [[Dundee]].
 
Ceir tarddle'r afon tua 20 milltir o [[Oban]] ar arfordir golllewinol yr Alban, dan yr enw afon Connonish, ac yn nes ymlaen yn afon Fillan. Newidia'r enw eto i afon Dochart cyn iddi lifo i mewn i [[Loch Tay]] yn [[Killin]]. Dim ond wrth iddi adael Loch Tay y gelwir hi yn afon Tay. Mae'r afon yn enwog am ei physgota [[eog]].