Afon Oder: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Oder.png|bawd|250px|Cwrs afon Oder]]
 
Afon yng nghanolbarth [[Ewrop]] yw '''afon Oder''' ([[Tsieceg]] a [[Pwyleg]]: ''Odra''). Mae'n 854.3 km o hyd, ac yn llifo trwy rannau o'r [[Gweriniaeth Tsiec|Weriniaeth Tsiec]], [[Gwlad Pwyl]] a'r [[Almaen]] i gyrraedd [[y Môr Baltig]].
 
Ceir tarddiad yr afon yn y [[Sudeten]], i'r dwyrain o ddinas [[Olomouc]] yn rhanbarth [[Morafia]] o'r Weriniaeth Tsiec. Mae'n llifo heibio dinas [[Ostrava]] i Wlad Pwyl, lle mae'n llifo trwy [[Silesia]]. Wedi i [[afon Neisse]] (Pwyleg: ''Nysa'') ynuno a hi, mae'r afon yn ffurfio'r ffîn rhwng Gwlad Pwyl a'r Almaen am 162 km. Am y 59 km olaf o'i chwrs, mae'r Oder yn dychwelyd i fod o fewn Gwlad Pwyl. Gerllaw dinas [[Szczecin]] mae'n llifo i mewn i'r [[Oderhaf]], sy'n arwain i'r môr.
 
Mae [[Szczecin]], ar lan chwith yr Oderhaf, yn borthladd pwysig. Mae [[Wrocław]] hefyd yn borthladd o bwys. Dinasoedd pwysig eraill ar hyd yr Oder yw [[Ostrava]] (Gweriniaeth Tsiec), [[Opole]] a [[Racibórz]] (Gwlad Pwyl) a [[Frankfurt an der Oder]] (yr Almaen). Y fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i'r Oder yw [[afon Warta]].
 
[[Delwedd:Szczecin by night 01.jpg|400px|chwith|bawd|Afon Oder yn Szczecin.]]