Duisburg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Dinas yn nhalaith ffederal [[Nordrhein-Westfalen]] yng ngorllewin [[yr Almaen]] yw '''Duisburg'''. Saif Duisberg gerllaw'r fan lle mae [[afon Ruhr]] yn llifo i mewn i [[afon Rhein]]. Gyda phoblogaeth o 495,668 yn [[2007]], saif yn drydydd ymysg dinasoedd [[Ardal y Ruhr]] o ran poblogaeth.
 
Yn y cyfnod Rhufeinig, adwaenid Duisberg fel ''Dispargum''. Ceir cofnod i'r ddinas gael ei hanrheithio gan y [[Llychlynwyr]] yn [[883]]. Yn wreiddiol roedd y ddinas yn union ar lan afon Rhein, ond tua [[1200]] newidiodd yr afon ei chwrs ychydig, a phenderfynwyd adeiladu harbwr newydd ar yr afon. Harbwr Duisburg yw'r harbwr mwyaf yn Ewrop nad yw ger y môr.
 
Roedd Duisburg yn adnabyddus am ei gweithfeydd dur a'i diwydiant glo, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae'r rhan fwyaf o'r pyllau glo wedi cau. Bu'r cartograffydd [[Gerardus Mercator]] yn gweithio yma o 1552 hyd 1594, ac mae wedi ei gladdu yma.