Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Melun"

Ychwanegwyd 5 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif6g using AWB)
B (→‎top: clean up)
'''Melun''' yw prifddinas ''département'' [[Seine-et-Marne]] yn ''région'' [[Île-de-France]]. Gyda pgoblogaeth o 37,835 yn [[2007]], hi yw trydydd dinas Seine-et-Marne o ran poblogaeth, ar ôl [[Chelles]] a [[Meaux]].
 
Saif Melun 41  km i'r de-ddwyrain o ddinas [[Paris]], ger [[afon Seine]]. Mae rhan o'r ddinas ar ynys yn y Seoune, yr île Saint-Étienne.
 
Ceir cogfnod o'r ddinas yn y cyfnod Galaidd fel ''Melodunum''. Dyddia'r enw modern o'r [[6g]]. Anrheithiwyd y ddinas gan y Llychlynwyr yn [[845]]. Byddai'r brenhinoedd Capetaidd cynnar yn aros yn Melun yn aml, ac adeiladwyd castell yma. Daeth [[Abélard]] yma yn [[1102]], wedi iddo gael ei yrru o Baris. Yn [[1420]], cipiwyd y ddinas gan y Saeson a'r Bwrgwyniaid wedi gwarchae hir. O'r gwarchae yma y cafodd y ddinas ei harwyddair, ''Fida muris usque ad mures'' ("Ffyddlon i'r muriau hyd at lygod mawr", hynny yw, hyd at fwyta llygod mawr.)
420,642

golygiad