Ikurrina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B clean up
Llinell 3:
 
==Yr Enw==
Bathwyd y gair 'Ikurriña' gan y ddau frawd [[Cenedlaetholdeb Basgaidd|cenedlaetholgar]], Luis a [[Sabin Arana]], a sefydlodd blaid genedlaethol yr EAJ-PNV ac a fathodd nifer helaeth o eiriau Basgeg.
 
Defnyddiwyd y gair Basgeg ''ikur'' ('arwydd' neu 'faner') ond golyga lawer mwy na hyn: baner cenedlaethol y Basgiaid. Yn hyn o beth mae'n debyg i'r ffordd y mae geiriaid generig am faner yn [[Catalwnia]], ''Senyera'' a baner Ynysoedd y Ffaroe, ''[[Merkið]]'' yn enwau ar faneri y gwledydd hynny. Roedd sillafiad gwreiddiol y brodyr Arana yn seiliedig ar dafodiaith talaith Baskaia, sef ''ikuŕiñ''. Mae'r gair yma bellach wedi ei safonni yn y Fasgeg gyfoes i ''ikurrin''. Yn y Fasgeg dynodir y fanod ar ddiwedd y gair gyda'r lythyren 'a'. Ystyr ikurrina felly, yw 'Y Faner'.<ref name=EuskaltzaindiaIkurrina />
Llinell 32:
Yn 2003 yn dilyn mwyafrif llywodraethol gan bleidiau UPN a CDN, pasiodd Senedd Nafar Ddeddf Symbolau Senedd Foral Nafar ar reoli pa faneri caiff eu chwifio mewn swyddfeydd yr awdurod. Yn ôl y ddeddf hon dim ond baneri Nafar a Sbaen caiff eu chwifio tu allan i swyddfeydd ac adeiladau cyhoeddus ac ysgolion y dalaith. Gwaherddir (heblaw mewn achos o ymweliad swyddogol neu efeillio trefi) chwifio unrhyw faneri y tu allan i cynghorau trefol o fewn Nafar heblaw am faneri'r cyngor lleol, Nafar, Sbaen a'r Undeb Ewropeaidd. Yn ôl y ddeddf hon mae'r ikurrina wedi ei gwahardd ac fe all Senedd Nafar atal taliadau i gyngor tref sy'n chwifio'r faner.
 
Bu i rai gynghorau lleol y dalaith benderfynnu ond chwifio faner y cyngor lleol ac hepgor y baneri eraill fel protest. Daeth cynghorau eraill o gylch y gwaharddiad drwy chwifio'r ikurrina ger llaw y mast swyddogol, ar balconi yr adeilad swyddogol neu mewn lle amlwg. Byddant felly yn osgoi torri deddf symbolau gan mai cyfeirio at chwifio'r baneri ar fastiau'r dref gwna deddf 2003.
 
Yn dilyn llwyddiant cynghrair pro-Basgeg NaBai yn etholiadau i dref Atarrabia yn 2007 penderfynwyd codi'r ikurrina y tu allan i adeilad cyngor y dref. Bu protestiadau gyda'r blaid pro-Sbaenaidd, UPN. Bellach mae baner Nafar a'r ikurrina yn hedfan mewn parc ger neuadd y dref gan nad oes cyfeiriad i hyn yn y ddeddf.
 
Defnyddiwyd dathliadau blynyddol Gŵyl San Fermin yn Iruña pan fydd teirw yn rhedeg drwy'r ddinas fel cyfle i herio Deddf Symbolau Nafar ac i nodi hunaniaeth Basgeg Nafar i gynulleidfa ryngwladol.
 
Gan nad oes modd i'r heddlu ymddangos yn y sgwâr lle cynhelir y seremoni agoriadol ac lle cychwynir y dathliadau clec fawr o flaen torf anferth daeth yn draddodiad i radicalwyr Basgeg i geisio arddangos yr ikurrina.
 
Yn 2013 llwyddwyd i [https://www.youtube.com/watch?v=-w_3egl7PHk ohirio cychwyn] y dathliadau gan rai munudau wrth i faner ikurrina anferth gael ei halio o un ochr o'r sgwâr i'r llall o flaen balconi lle cyhoeddir dechrau'r Ŵyl gan bwysigon y ddinas.
 
==Yr ''Ikurrina'' yn Aberystwyth==
Ers ddiwedd yr 1980au bu'r ikurrina yn chwifio ar hyd Promenâd [[Aberystwyth]]. Mae'n chwifio fel rhan o gyfres o faneri gwleidydd di-wladwriaeth (Catalwnia, Llydaw, De Tirol) neu, sydd bellach, ers cwymp yr [[Undeb Sofietaidd]] wladwriaethau llawn (Estonia, Latfia a Lithwania).
 
Codwyd y baneri hyn ar hyd brif Bromenâd Aberystwyth ar ysgogiad y cynghorydd tref Plaid Cymru, Gareth Butler. Gelwir hwy gan rai yn 'Baneri Butler'.
 
==Oriel==