Eiger: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
lleoliad
B →‎top: clean up
Llinell 10:
}}
 
Mynydd 3,970 metr o uchder yn yr [[Alpau]] yw'r '''Eiger'''. Saif yn [[y Swistir]], ar ben dwyreiniol crib sydd hefyd yn cynnwys copaon y [[Mönch]] (4,107 m) a'r [[Jungfrau]] (4,158 m). Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar [[11 Awst]], [[1858]], gan y Gwyddel [[Charles Barrington]] gyda'r tywysyddion Swisaidd [[Christian Almer]] a [[Peter Bohren]]. Mae rheilffordd yr [[Jungfraubahn]] yn arwain trwy dwnel tu mewn i'r mynydd i gyrraedd bwlch y [[Jungfraujoch]], yr orsaf reilffordd uchaf yn Ewrop.
 
Yr hyn sy'n gwneyd yr Eiger yn enwog yw'r wyneb gogleddol, y ''Nordwand'' mewn [[Almaeneg]]. Bu farw nifer o ddringwyr yn y [[1930au]] yn ceisio ei ddringo, cyn i [[Andreas Heckmair|Anderl Heckmair]], [[Ludwig Vörg]], [[Heinrich Harrer]] a [[Fritz Kasparek]] ei ddringo ar [[24 Gorffennaf]], [[1938]].
 
Yn [[1981]], ffilmiwyd y dringwr Cymreig [[Eric Jones]] yn dringo'r wyneb gogleddol ar ei ben ei hun gan Leo Dickinson, ffilm a gyhoeddwyd fel ''Eiger Solo''.