Trafynyddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 18 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q274053 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 1:
'''Trafynyddiaeth''' (o'r [[Lladin]] ''ultramontanus'', 'y tu draw i'r mynyddoedd', h.y. 'yn [[Yr Eidal]]') yw'r syniad neu duedd o fewn yr [[Eglwys Gatholig]] fod grym ac awdurdod y [[Pab]] a'r ''[[Curia Romana]]'' (llys eglwysig y [[Fatican]]) yn uwch nag unrhyw fudiad cenedlaethol neu [[cenedlaetholdeb|genedlaetholgar]], er enghraifft [[Galicaniaeth]] yn [[Ffrainc]], neu awdurdod eglwysig lleol yn yr Eglwys.
 
Ystyrir fod Trafynyddiaeth wedi cyrraedd ei huchafbwynt yn [[1870]] gyda datganiad yr athrawaeth fod [[Anffaeledigaeth|awdurdod y Pab yn anffaeledig]]. Ond ers hynny mae'r eglwys wedi symud yn gyffredinol i'r cyfeiriad arall, gyda mwy o ryddid i awdurdodau eglwysig lleol ac eglwysi cenedlaethol neu ranbarthol, yn arbennig ers [[Ail Gyngor y Fatican]] ([[1962]]-[[1965]]).