Y Deyrnas Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
arddull
B clean up
Llinell 82:
Mae'r Alban yn cynnwys 32 [[Awdurdodau unedol yr Alban|Awdurdod Unedol]]. Mae Gogledd Iwerddon yn cynnwys 24 o Ardaloedd, 2 Ddinas, a 6 Sir.
 
Mae Lloegr wedi ei rhannu yn naw [[Rhanbarthau Lloegr|Rhanbarth Swyddi'r Llywodraeth]], sef [[Gogledd-ddwyrain Lloegr]], [[Gogledd-orllewin Lloegr]], [[Swydd Efrog a'r Hwmbr]], [[Dwyrain Canolbarth Lloegr]], [[Gorllewin Canolbarth Lloegr]], [[Dwyrain Lloegr]], [[Llundain Fwyaf]], [[De-ddwyrain Lloegr]] a [[De-orllewin Lloegr]]. Mae gan bob rhanbarth ei Siroedd a/neu [[Siroedd Metropolitan Lloegr|Siroedd Metropolitan]] a/neu awdurdodau unedol, ac eithrio [[Llundain]] a rennir yn [[Bwrdeistrefi Llundain|fwrdeistrefi]].
 
Yn ogystal mae nifer o diriogaethau dibynnol gwahanol yn perthyn i'r Deyrnas Unedig; gweler [[Gwladfa'r Goron]]. Ni chyfrifir [[Ynys Manaw]] nac [[Ynysoedd y Sianel]] yn rhanbarthau o'r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith; dibynyddion y goron Brydeinig ydynt, ond y mae'r Deyrnas Unedig yn gyfrifol am eu materion allanol.
Llinell 103:
== Economi ==
{{Prif|Economi'r Deyrnas Unedig}}
Mae'r Deyrnas Unedig, sy'n fasnachwr pwysig a chanolfan ariannol, yn meddu economi cyfalafol, sy'n un o'r fwyaf yng ngorllewin Ewrop. Dros y ddau ddegawd diwethaf fe leiheuwyd perchenogaeth gyhoeddus yn ddirfawr gan y llywodraeth trwy raglenni [[preifateiddio]], ac fe gyfyngwyd ar dwf y [[Gwladwriaeth Les|Wladwriaeth Les]]. Mae [[amaethyddiaeth]] yn ddwys, wedi ei mecaneiddio yn drwm, ac yn effeithlon yn ôl safonau Ewropeaidd, gan gynhyrchu tua 60% o anghenion lluniaethol gyda dim ond 1% o'r llu llafur. Mae gan y DU gronfeydd eang o [[glo|lo]], [[nwy naturiol]], ac [[olew]]; mae cynhyrchiad cynradd egni yn cyfrif tuag at 10% o [[Cynnyrch Mewnwladol Crynswth|Gynnyrch Mewnwladol Crynswth]], un o rannau uchaf unrhyw wladwriaeth ddiwydiannol. Mae gwasanaethau, yn enwedig [[bancio]], [[yswiriant]], a gwasanaethau busnes, yn ffurfio cyfartaledd uchaf GWC o bell ffordd, wrth i ddiwydiant trwm barhau i edwino.
 
Gohiriodd llywodraeth [[Tony Blair|Blair]] ateb cwestiwn cyfranogiad y DU yn y system [[Ewro]], gan nodi pump o brofion economaidd y dylai eu pasio cyn i'r wlad gynnal [[refferendwm]].