Ffyrdd Rhufeinig Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Ffordd Rufeinig (Caerhun-Segontium).JPG|300px|bawd|Rhan o'r ffordd Rufeinig rhwng [[Caer]] a [[Segontiwm]] lle mae'n dringo o [[Caerhun|Gaerhun]] i gyfeiriad [[Bwlch-y-Ddeufaen]] ar ei ffordd i Segontiwm]]
 
Adeiladwyd rhwydwaith o ffyrdd yng Nghymru yn ystod y cyfnod pan oedd y wlad yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]].
 
Gellir meddwl am y caerau a ffyrdd Rhufeinig yng Nghymru fel bocs hirsgwar yn amgylchynu'r mynyddoedd. Yr oedd caer bwysig ymhob cornel. Yn y de-ddwyrain ceir caer ''Isca Silurum'' ([[Caerllion|Caerllion ar Wysg]]), ger [[Casnewydd]] heddiw. Hon oedd pencadlys y Rhufeiniaid yn y de. Yn y gogledd-ddwyrain dewiswyd safle ger aber [[Afon Dyfrdwy]] ar gyfer ''Deva'' (dinas [[Caer]] heddiw). Yn y ddwy gaer hyn sefydlwyd pencadlysoedd y llengoedd yng Nghymru, sef y [[Legio II Adiutrix]] yn Deva hyd [[66]] ac yna'r [[Legio XX Valeria Victrix]], a'r [[Legio II Augusta]] yn Isca Silurum. Yn y gorllewin roedd caer [[Segontium]] ([[Caernarfon]]) yn y gogledd a chaer ''Maridunum'' ([[Caerfyrddin]]) yn y de. Rhwng y caerau yma roedd cyfres o gaerau llai.
 
Yn cysylltu'r caerau hyn a'i gilydd roedd cyfres o ffyrdd. Yn y gogledd roedd [[Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm|y ffordd yn cysylltu Caer a Segontium]], oedd yn mynd heibio ''Canovium'' ([[Caerhun]]). Roedd [[Sarn Helen]] yn rhedeg o ''Canovium'' yn y gogledd i Gaerfyrddin, gyda fforch yn arwain i gaer [[Castell Nedd]]. Yn y de, roedd [[Ffordd Rufeinig Caerleon-Caerfyrddin|y ffordd yn cysylltu Caerllion a Chaerfyrddin]]. Ochr arall y sgwar oedd [[Ffordd Rufeinig Caerllion-Caer|y ffordd yn cysylltu Caerllion a Chaer]], oedd yn mynd trwy [[Viroconium]], er fod y rhan fwyaf o'r ffordd yma tu allan i ororau Cymru.