Cynulliad Gogledd Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Llinell 56:
}}
 
'''Cynulliad Gogledd Iwerddon''' ({{lang-ga|Tionól Thuaisceart Éireann}},<ref name=irish>{{cite web |url=http://www.achtanna.ie/ga.act.1999.0001.10.html|language=Irish|title=Comhaontú idir Rialtas na hÉireann agus Rialtas Ríocht Aontaithe na Breataine Móire agus Thuaisceart Éireann ag Bunú Comhlachtaí Forfheidhmithe|accessdate=8 June 2008|publisher=[[Oireachtas]]}}</ref>) yw'r corff deddfwriaethol datganoledig ar gyfer materion mewnol [[Gogledd Iwerddon]]. Mae'n cwrdd yn [[Adeilad y Senedd (Gogledd Iwerddon)|Adeilad y Senedd]] (''[[Stormont]]''), [[Belffast]].
 
Mae'n un o ddau sefydliad "cyd-ddibynol" (''mutually inter-dependent'') a grewyd yn 1998 gan [[Cytundeb Gwener y Groglith|Gytundeb Gwener y Groglith]], yr ail sefydliad yw Cyngor Gweinidogion y Gogledd/De, ar y cyd gyda [[Gweriniaeth Iwerddon]]. Pwrpas y cytundeb hwn oedd tawelu '[[Yr Helyntion]]' milwrol a fu yng Ngogledd Iwerddon am gyfnod o 30 mlynedd. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi'i ethol yn ddemocrataidd o 108 o aelodau a elwir yn 'Aelodau Cynulliad Deddfwriaethol (Gogledd Iwerddon)' (byrfodd arferol: MLA). Defnyddir math o sytem [[pleidlais sengl drosglwyddadwy]] sydd hefyd yn ymgorffori'r system [[Cynrychiolaeth gyfrannol]]. Penodir y Gweinidogion i [[Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon|Bwyllgor Gwaith Cynulliad Gogledd Iwerddon]] drwy rannu pwer, gan ddefnyddio dull D'Hondt, sy'n sicrhau fod gan y ddwy brif garfan (yr Unoliaethwyr a'r Cenedlaetholwyr) ran o'r gacen.
 
Ychwanegwyd at bwerau'r Cynulliad ar 12 Ebrill 2010, pan gafodd y Cynulliad bwerau'n ymwneud â'r Heddlu a Chyfraith.
Llinell 78:
 
==Etholiad Cyffredinol Gogledd Iwerddon 2017==
Cynhaliwyd yr etholiad ar 2 Mawrth 2017. Yn gefndir i hyn roedd [[Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016|Refferendwm Brexit]], pan bleidleisiodd mwyafrif pobl Gogledd Iwerddon dros aros yn yr UE. Galwyd yr etholiad yn dilyn ymddiswyddiad Dirprwy Brif Weinidod y Cynulliad, sef [[Martin McGuinness]] ([[Sinn Féin]]) oherwydd ei iechyd ac mewn protest oherwydd sgandal 'Ymgyrch y Gwres Adnewyddadwy' dan arweiniad gan Unoliaethwyr. Gan nad apwyntiwyd neb yn ei le gan y cenedlaetholwyr, roedd yn rhaid, yn ôl y Ddeddf, alw etholiad. Hwn oedd y 6ed etholiad ers ail-sefydlu'r Cynulliad yn 1998.
 
Roedd yr etholiad hon yn garreg filltir bwysig yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon gan ei bod y tro cyntaf i'r Cenedlaetholwyr ethol mwy o aelodau na'r Unoliaethwyr. Etholwyd 28 DUP a 10 UUP yn rhoi cyfanswm o 38 o Unoliaethwyr; etholwyd 27 aelod o Sinn Féin a 12 SDLP yn rhoi cyfanswm o 39 aelod.
 
{{clirio}}