Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Annwn"

Ychwanegwyd 22 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
(Tudalen newydd: '''Annwn''' neu '''Annwfn''' yw'r fersiwn Cymreig o'r Arallfyd Celtaidd. Byd paradwysaidd yw Annwn yn y traddodiad Cymreig cynnar: dim ond yn ddiweddarach y daet...)
 
Daw Arawn i'r golwg, yn marchogaeth march brychlas (''erchlas'') gyda 'gwisg o frethyn llwyd amdano yn wisg hela'.<ref>''Ibid.'', t. 2.</ref> Cwyna wrth Bwyll am fod mor anghwrtais. Disgrifia ei hun fel 'brenin coronog' yn ei deyrnas ei hun.
 
I wneud iawn am ei ''ansyberwydd'' (anghwrteisi) cytuna Pwyll i gyfnewid lle ag Arawn am flwyddyn. Ar ddiwedd blwyddyn o wledda a phob hyfrydwch yn y byd paradwysaidd hwnnw mae Pwyll yn ymladd yn lle Arawn â [[Hafgan]] ac yn ei drechu gan achub y deyrnas. Credai [[William John Gruffydd|W. J. Gruffydd]] fod Hafgan yn ymrithiad arall o Arawn ei hun.<ref>W. J. Gruffydd, ''Rhiannon''.</ref> Er bod Arawn wedi rhoi ei bryd a'i wedd ei hun i Bwyll, arosodd Pwyll yn ffyddlon ac ni chafodd gyfathrach â gwraig Arawn, er iddynt gysgu yn yr un gwely ac iddi ymbil arno a chwyno am ei ddiethrwch. Am fod Pwyll wedi ymddwyn mor gwrtais a bonheddig ac wedi trechu Hafgan hefyd, mae'n ennill cyfeillgarwch Arawn.
 
Ar ôl dychwelyd i'w deyrnas, cyfeirir at Bwyll fel 'Pwyll Pen Annwfn'. Er mwyn diolch i Bwyll mae Arawn yn rhoi anrheg o foch arbennig iddo; dyma'r moch hud mae [[Gwydion]] yn dwyn o lys [[Pryderi]] yn y [[Math fab Mathonwy|Bedwaredd Gainc]].
37,236

golygiad