Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 14eg ganrif14g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 56:
Sefydlwyd Tŷ Cyffredin Lloegr rywbryd yn y [[14g]] gan newid ei henw i 'Dŷ' Cyffredin Prydain Fawr' wedi uno'r [[Alban]] a Lloegr yn 1707, a newid unwaith eto yn y [[19g]] i 'Tŷ'r Cyffredin Prydain Fawr ac Iwerddon' wedi'r Ddeddf Uno gydag Iwerddon. Bathwyd y term presennol yn 1922.
 
Dan Ddeddf 1911, lleihawyd grym Tŷ'r Arglwyddi i wrthod penderfyniadau Tŷ'r Cyffredin. Mae'r Llywodraeth yn swyddogol yn ddarostyngedig i Dŷ'r Arglwyddi - o ran cyfrifoldeb.
 
Erys y Prif Weinidog yn ei swydd tra bod ganddo/i gefnogaeth mwyafrif aelodau Tŷ'r Cyffredin. Rhoddir sêl bendith ar y Prif Weinidogaeth gan Frenhines y DU; mae'r person hwn fel arfer yn arweinydd y blaid fwyaf, ond nid o angenrheidrwydd. Gelwir arweinydd yr ail blaid fwyaf yn 'Arweinydd Gwrthblaid Ei Mawrhydi'. Ers 1963, drwy gonfensiwn, mae'r Prif Weinidog yn aelod o Dŷ'r Cyffredin yn hytrach na Thŷ'r Arglwyddi.
 
Daw'r enw 'Cyffredin' (neu 'commons') o'r gair Saesneg ''communes'', sef gwahanol 'gymunedau' oddi fewn i'r Tŷ.<ref>{{cite book |authorlink=A. F. Pollard |first=A.F. |last=Pollard |title=The Evolution of Parliament |publisher=Longmans |year=1920 |pages=107–08}}</ref>
 
 
====Gweler hefyd====