Pedair Cainc y Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 17:
Mae hanes [[Pryderi]], mab [[Pwyll]] a [[Rhiannon]], yn asio'r chwedlau ynghyd. Yn y Gainc Gyntaf ceir hanes ei eni, yn yr Ail ei anturiaethau gyda [[Manawydan]] ac yn y bedwaredd y digwyddiadau sy'n arwain at ei farwolaeth. Mae cainc Branwen ferch Llŷr yn dipyn o eithriad ond yn cyfeirio at Bryderi a Manawydan.
 
Y mae'r Gainc Gyntaf, ''Pwyll, Pendefig Dyfed'', yn agor gyda hanes Pwyll yn cyfarfod [[Arawn]], brenin [[Annwfn]] (yr [[Arallfyd]]) ac yn cyfnewid lle â fo am flwyddyn ac yn ennill Rhiannon yn wraig iddo'i hun. Genir Pryderi ac yna ei golli a'i gael eto fel [[Gwri Gwallt Eurin]] yn llys [[Teyrnon]] yng [[Gwent|Ngwent]]. Ar ddiwedd y gainc mae Pryderi'n olynu ei dad fel Pendefig Dyfed gan ychwanegu saith [[Cantref|gantref]] [[Seisyllwg|Seisyllwch]] i'w diriogaeth.
 
Yn yr Ail Gainc, ''Branwen ferch Llŷr'', mae Brân fab Llŷr ([[Bendigeidfran]]) yn rheoli [[Prydain]] o [[Harlech]] ac [[Aberffraw]]. Mae ganddo ddau frawd, Manawydan ac [[Efnisien]], y naill yn fwyn a'r llall yn wyllt a rhyfelgar. Gweithred ddibwyll Efnisien yn sarhau [[Matholwch]], brenin Iwerddon, sydd wedi dod i briodi [[Branwen]], yw cychwyn helyntion y gainc ac yn arwain at gyrch Brân a'i wŷr i Iwerddon gyda chanlyniadaiu trychinebus. Dim ond Seithwyr o'r Cymry sy'n osgoi'r gyflafan, gan gynnwys Pryderi, Manawydan a [[Pendaran Dyfed]]. Mae'r gainc yn gorffen gyda'r daith yn ôl i Gymru, marwolaeth Branwen ym Môn a chladdu Pen Bendigeidfran yn Llundain.