Y Llenor (1922-55): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: :''Am y cylchgrawn cynharach o'r un enw, gweler Y Llenor (1895-98.'' Prif gylchgrawn beirniadaeth lenyddol Cymru yn ail charter yr 20fed ganrif oedd '''''Y Llenor'''''. ...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Am y cylchgrawn cynharach o'r un enw, gweler [[Y Llenor (1895-98)]].''
 
Prif gylchgrawn [[beirniadaeth lenyddol]] [[Cymru]] yn ail charter yr 20fed ganrif oedd '''''Y Llenor'''''. Cafodd ei sefydlu yn [[1922]] gyda'r ysgolhaig [[William John Gruffydd]] yn olygydd. Daeth i chwarae rhan allweddol yn natblygiad [[llenyddiaeth Gymraeg]] y cyfnod. Cyhoeddwyd y rhifyn olaf yn [[1955]].
Llinell 7:
Amcan ''Y Llenor'', yn ôl W. J. Gruffydd, oedd "darparu a hyrwyddo'r diwylliant llenyddol uchaf, a rhoddi i lenorion Cymru le y cyhoeddir eu gwaith ar un amod yn unig, sef teilyngdod llenyddol". I'r perwyl hwnnw, cyhoeddwyd llu o erthyglau beirniadol a chreadigol gan rai o lenorion amlycaf y cyfnod, yn cynnwys [[Ambrose Bebb]], [[Robert Griffith Berry|R. G. Berry]], [[Saunders Lewis]], [[R. T. Jenkins]], [[D. Myrddin Lloyd]], [[D. Tecwyn Lloyd]], [[T. H. Parry-Williams]], [[Ffransis G. Payne]], [[Iorwerth C. Peate]], [[Kate Roberts]], a [[Griffith John Williams|G. J. Williams]], yn ogystal â W. J. Gruffydd ei hun.
 
Gadawodd ''Y Llenor'' fwlch mawr ym mywyd llenyddol y wlad ar ei ôl pan ddaeth i ben yn 1955. Yn [[1961]], fodd bynnag., dechreuwyd cyhoeddi ''[[Taliesin (cylchgrawn)|Taliesin]]'' fel olynydd teilwng iddo.