Inis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Image:Ennis 01.jpg|bawd|225px|Eglwys gadeiriol Sant Pedr a Sant Paul ar hyd Stryd O'Connell]]
 
Prif dref [[Swydd Clare]] yn nhalaith [[Munster]], [[Gweriniaeth Iwerddon]] yw '''Inis''' ([[Saesneg]]: ''Ennis''). Saif ar [[Afon Fergus]], i'r gogledd o [[Limerick]] ac i'r de o [[Galway]], ar y briffordd N18. Yr enw llawn gwreiddiol oedd ''Inis Cluain Ramh Fhada'' ("Ynys y Rhwyfo Hir"). Saif o fewn 12 milltir i [[Maes Awyr Shannon|Faes Awyr Shannon]]. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 24,253.
 
Tyfodd Inis o amgylch yr abaty [[Urdd Sant Ffransis|Ffransiscaidd]], a sefydlwyd tua 1242. Ceir Eglwys gadeiriol Sant Pedr a Sant Paul yma hefyd. Mae'n ganolfan bwysig i gerddoriaeth draddodiadol Iwerddon, a chynhelir gwyl gerddorol y ''[[Fleadh Nua]]'' yma'n flynyddol tua diwedd Mai.