Cwch gwynt â chragen anhyblyg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwobr Treftadaeth Peirianneg
B →‎top: clean up
Llinell 2:
[[Cwch gwynt]] gyda gwaelod caled ac ochrau hyblyg yw '''cwch gwynt â chragen anhyblyg''' (RHIB)<ref>O'r {{iaith-en|rigid-hulled inflatable boat}}.</ref> neu '''gwch gwynt anhyblyg''' (RIB;<ref>O'r [[Saesneg]]: ''rigid inflatable boat''.</ref> enwau amgen: '''cwch pwmpiadwy â chragen anhyblyg''',<ref name=BBC>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9480000/newsid_9487400/9487416.stm |teitl=Cwch chwyldroadol gan fyfyrwyr Coleg yr Iwerydd |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=17 Mai 2011 |dyddiadcyrchiad=9 Hydref 2013 }}</ref> '''cwch chwyddadwy â chragen anhyblyg'''). Defnyddir fel [[cwch pleser]], [[bad achub]], a gan y lluoedd arfog.
 
Dyfeisiwyd yn y 1960au gan staff a myfyrwyr [[Coleg yr Iwerydd]], [[Bro Morgannwg]]. Mae gan y coleg orsaf bad achub, ac roedd y [[dingi]]s rwber a arferai'r coleg eu defnyddio yn medru rhwygo ar y creigiau. Arweiniodd Desmond Hoare, cyn Ôl-lyngesydd [[y Llynges Frenhinol]] a phrifathro cyntaf y coleg, prosiect i greu cwch gwynt allai wrthsefyll tywydd garw [[Môr Hafren]] a chael ei lusgo dros y [[traeth graenog]] rhwng y coleg a'r môr.<ref name=Amgueddfa/> Yn ôl David Sutcliffe, aelod o'r staff ar y pryd, "y peth pwysicaf oedd y syniad i ddod at ei gilydd y [[cragen (llong)|gragen]] uchel ei pherfformiad a thiwb rwber". Adeiladwyd o leiaf 30 o gychod arbrofol gan anelu at gwch cyflym, ysgafn a phwerus.<ref name=BBC/> "Naomi" oedd enw'r cwch gwreiddiol.<ref name=gwobr/> Adeiladodd dau fyfyriwr o'r Iseldiroedd cwch â chragen anhyblyg, y ''Psychedelic Surfer'', mewn tair wythnos ar gyfer y Ras Cychod Pŵer o Amgylch Prydain ym 1969, ac a orffennodd yn bedwaredd ar bymtheg allan o dros 60 o gystadleuwyr.<ref name=BBC/><ref name=Amgueddfa>{{dyf gwe |url=http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1823/?article_id=664 |teitl=Meddyliwch am fad achub? |cyhoeddwr=[[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] |dyddiad=6 Mai 2011 |dyddiadcyrchiad=9 Hydref 2013 }}</ref><ref name=BBC/>
 
Gwelodd [[Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub]] (RNLI) potensial y cwch, ac wedi profi sawl bad arfbrofol aethant ati i greu model [[ffibr gwydrog]], y B-Class Atlantic 21, oedd yn anrhydeddu'r ysgol yn ei enw. Yr arloesiad olaf i greu'r Atlantic 21 oedd cael gwared â’r [[trawslath]], sef y byrddau ôl sy’n cadw’r dŵr allan mewn cwch cyffredin ond mewn cwch gwynt anhyblyg roedd gwaredu’r trawslath yn caniatáu i’r dŵr lifo allan o gefn y cwch.<ref name=Amgueddfa/> Rhoddwyd [[patent]] i Desmond Hoare ym 1969 am gwch gwynt â chragen anhyblyg nofiadwy. Ym 1974 gwerthodd Desmond Hoare y patent i'r RNLI am £1, er heddiw credir iddo fod gwerth £15&nbsp;miliwn y flwyddyn.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.ipo.gov.uk/news/newsletters/ipinsight/ipinsight-201301/ipinsight-201301-2.htm |teitl=Hoare's RIB |cyhoeddwr=[[Y Swyddfa Eiddo Deallusol]] |dyddiadcyrchiad=9 Hydref 2013 }}</ref> Daeth yr Atlantic 21 yn rhan o fflyd yr RNLI ym 1972, ac erbyn 1993 roedd wedi bod allan 15,601 o weithiau, gan achub 4,717 o fywydau. Erbyn heddiw, mae'r RNLI yn defnyddio'r B-class Atlantic 75 ac Atlantic 85.<ref name=BBC/> Rhoddwyd Gwobr Treftadaeth Peirianneg i'r cwch gan [[Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol]] yn 2015.<ref name=gwobr>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/32924745 |teitl=Gwobr beirianyddol i gwch achub myfyrwyr |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=31 Mai 2015 |dyddiadcyrchiad=31 Mai 2015 }}</ref>