Médecins Sans Frontières: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 2:
Mudiad dyngarol sy'n ceisio ehangu'r ddarpariaeth [[meddygaeth|feddygol]] ydy '''Médecins Sans Frontières''' ('''MSF'''), neu '''Meddygon Heb Ffiniau'''.
 
Yn aml, mae'r meddygon yn gweithio yng ngwledydd y Trydydd Byd, ac epidemig, newyn ac [[afiechyd]]on yn dew yno.
 
Cafodd ei sefydlu yn 1971 gan grwp bychan o feddygon o [[Ffrainc]] yn dilyn rhyfel cartref [[Biafra]], meddygon a gredawsant fod gan pob person yr hawl i gael [[gofal meddygol]] waeth beth fo'i liw neu ei gredo ac nad oedd ffiniau gwleidyddol gwledydd yn bwysig. Mae Cyngor Rhyngwladol y mudiad yn cyfarfod yn [[Genefa]], [[Swistir]], ble sefydlwyd eu Prif Swyddfa - sy'n cydgordio gweithgareddau sy'n gyffredin drwy'r byd.
 
Yn 2007 darparwyd cymorth meddygol i dros 60 o wledydd a hynny gan dros 26,000 o feddygon, nyrsus a staff proffesiynnol eraill megis peiriannwyr dŵr a gweinyddwyr. Mae noddwyr preifat yn cyfrannu tuag 80% o holl wariant y mudiad gyda'r gyllideb blynyddol o tua (USD) $400 miliwn.<ref>Forsythe, David P. (2005) ''The Humanitarians: The International Committee of the Red Cross'', Cambridge University Press. ISBN 0521612810.</ref>
 
==Cyfeiriadau==