Mysgedwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llinell 8:
Mae'n bur debygol mai'r wlad gyntaf i ddefnyddio mysgedwyr, oedd [[Tseina]] ar gychwyn y 14eg ganrif ac o bosib cyn hynny. Yn sicr roeddent yn rhan hanfodol o'r fyddin yn ystod y [[Brenhinllin Ming]] (1368–1644) a'r [[Brenhinllin Qing]] (1644–1911). Ceir llyfr o'r 14eg ganrif sy'n disgrifio'r ddyfais ''matchlock'' yn Tseina.<ref name="needham volume 5 part 7 447 454">Needham, Cyfrol 5, Rhan 7, 447-454.</ref>
 
Roedd [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] hefyd yn flaenllaw gyda'r ddyfais newydd a hyfforddwyd mysgedwyr di-ri i'w defnyddio ganddynt yn yr 1440au, yn enwedig gan y corfflu ''Jannisari''. Roeddent wedi ymestyn eu tiriogaeth o [[Twrci|Dwrci]] i Arabia a defnyddiwyd y mysgedwyr ganddynt pan wnaethon nhw orchfygu [[Caergystennin]] (Istanbwl heddiw). Dyma'r cyfnod pan y defnyddiwyd y [[canon]] (neu "Fombard Mawr Twrci" fel y'i galwyd) am y tro cyntaf i chwalu muriau caerau a chestyll.
 
Gyda Ffrainc y cysylltir y gair fel arfer, a gair Ffrengig ydoedd yn wreiddiol. Ffurfiwyd "Mysgedwyr y Gard" yn 1622 gan [[Louis XIII, brenin Ffrainc|Louis XIII]] pan gyflwynodd y gwn i gwmni o gafalri ysgafn.