Arf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
'''Arf''' yw unrhyw beth sydd wedi ei wneud i ladd neu niweidio person neu anifail. Gellir defnyddio pethau nad ydynt wedi eu gwneud i'r pwrpas fel arf hefyd. Maent yn cael eu defnyddio yn erbyn personau mewn [[rhyfel]] ac yn erbyn anifeiliaid wrth [[hela]].
 
Cofnodwyd defnydd o arfau syml gan [[tsimpansî]]aid, sydd wedi eu gweld yn eu defnyddio ar gyfer hela. Yr arfau dynol cynharaf i'w darganfod hyd yma yw wyth gwyawffon bren o'r [[Almaen]], sy'n dyddio i tua 400,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd yr arfau cynharaf o bren neu garreg, ond gyda chynnydd technolegol daethpwyd i'w gwneud o [[efydd]] ac yna o [[haearn]]. Tua diwedd yr Oesau Canol, cyrhaeddodd [[powdwr gwn]] i [[Ewrop]] o [[Tsieina]], a datblygwyd [[arfau tân]], yn enwedig y [[gwn]]. Nid oedd y gynnau cynnar yn effeithiol iawn, ond gyda datblygiad y dechnoleg, cymerodd gynnau o wahanol fathau le arfau megis y [[cleddyf]] a'r [[Bwa (arf)|bwa]].
 
Pan ddyfeisiwyd yr [[awyren]] yn gynnar yn yr [[20g]], datblygodd y defnydd o arfau eraill, megis [[bom]]iau a ollyngir o'r awyr. Tua'r un cyfnod, datblygodd y defnydd o [[nwy gwenwynig]] yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], a welodd hefyd ddatblygiad y [[Tanc (milwrol)|tanc]]. Gwelodd yr [[Ail Ryfel Byd]] y defnydd cyntaf o [[arf niwclear]].