Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwaywffon"

Lleihawyd o 162 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
clean up
B (canrifoedd a Delweddau, replaced: 15fed ganrif15g, 13eg ganrif13g, [[File: → [[Delwedd: using AWB)
B (clean up)
Arf hirfain, blaenllym a ddefnyddir i drywanu person mewn brwydr yw '''gwaywffon''' (hefyd: '''gwayw''' neu '''bicell'''). Mae iddi ddwy ran: y [[llafn]] garreg neu [[metal|fetal]] a'r ffon hir a luniwyd o bren yn gyntaf, ac yna o fetal. Gall y waywffon fod yn un i'w thaflu drwy'r awyr, neu'n fath trymach i'w chario yn y dwylo. Defnyddid [[fflint]] yn llaf i'r hen waywffyn, ac mae'r hynaf yn dyddio i o leiaf 400,000 cyn y presennol ([[CP]]).<ref>''Lower Palaeolithic hunting spears from Germany. Hartmut Thieme. Letters to Nature. Nature'' 385, 807 – 810 (27 Chwefror 1997); {{doi|10.1038/385807a0}} [http://www.nature.com/nature/journal/v385/n6619/abs/385807a0.html]</ref> Ystyrir y [[bidog]] yn ddatblygiad naturiol i'r waywffon, ac sy'n parhau i gael ei ddefnyddio heddiw gan filwyr ar flaen gwn.
 
Caiff y gair "gwayw" ei ddefnyddio'n drosiadol ar adegau e.e. 'gwayw' am 'boen' neu 'ing' neu‘n ffigurol am arwr neu arweinydd; yr hen air am [[cricymalau]] oedd 'gwayw cymalau'.
 
Mae tystiolaeth [[archaeoleg]]ol diweddar yn awgrymu fod yr [[Homo heidelbergensis]] yn defnyddio gwaywffyn 500,000 CP.<ref>Monte Morin, [http://articles.latimes.com/2012/nov/16/science/la-sci-hafting-spears-20121116 "Stone-tipped spear may have much earlier origin"], ''Los Angeles Times'', Tachwedd 2012</ref> Roedd y [[Dyn Neanderthal]] yn creu llafnau gwywffyn 300,000 CP, ac erbyn 250,000 CP roedd yn caledu'r llafn drwy ddefnyddio gwres uchel.
Cofnodwyd y gair "gwaywffon" am y tro cyntaf fel gair cyfansawdd 'gwayw' a 'ffon' yng ngeiriadur Salesbury yn 1547, ond mae'r gair 'gwayw' yn llawer hŷn; fe'i cofnodwyd yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]] yn y [[13g]]: ''Seith guaew ny ochel in eu seithran''. Yr hen ynganiad oedd: '''gwoew'''.
 
Ymhlith yr hen enwau arni y mae: glaif, gwayw, mehyr/myhyr, ongyr, pâr, rhôn, saffwy ac ysbâr, ond "gwayw" yw‘r prif derm am waywffon yng ngherddi‘r [[Hengerdd]] a cherddi [[Beirdd y Tywysogion]].<ref name="cadair.aber.ac.uk">[http://cadair.aber.ac.uk/dspace/bitstream/handle/2160/4646/Pennod3.pdf?sequence=3 ''Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion''; papur gan Jennifer Penelope Day; 2010.] Adalwyd 07 Rhagfyr 2015</ref>
 
Gwelir fod tarddiad y gair yn gyffredin, rhwng yr ieithoedd Celtaidd:
:[[Hen Wyddeleg]]: '''gáe'''
:[[Hen Gymraeg]]: '''guoïu''' (gwoyw)
:[[Galeg]] ( iaith y Celtiaid tebyg i'r [[Brythoneg|Frythoneg]]): '''gaeso'''
 
==Mathau gwahanol==
===Gwaywffon dafl===
Awgrymodd Ifor Williams wrth drafod llinell o Ganu Llywarch Hen, fod "pâr" yn waywffon dafl, sef gwaywffon ysgafn i'w thaflu; mae'n cyfeirio at y disgrifiad o [[Culhwch ac Olwen|Gulhwch]] ''yn cludo deu par aryanhyeit lliueit yn y law'', ac at yr arfau y mae [[Lleu Llaw Gyffes|Lleu a Gronwy]] yn eu taflu at ei gilydd ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]].<ref>[http:// name="cadair.aber.ac.uk"/dspace/bitstream/handle/2160/4646/Pennod3.pdf?sequence=3 ''Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion''; papur gan Jennifer Penelope Day; 2010.] Adalwyd 07 Rhagfyr 2015</ref>
 
==='Glaif' y marchog===
Yma, mae'r gair 'gwyro' yn disgrifio'r glaif (''lance'' yn Saesneg) yn plygu neu'n gostwng ei waywffon ar y funud olaf wrth ruthro ar ei farch tuag at ei elyn.
 
Ac yn 'Rhamant Otuel' dywedir: ''gostwg y waew a'i ossot yghyueir yr iarll a chymell y uarch''.
 
Mew cerdd fawl i [[Rhodri ab Owain Gwynedd|Rodri ab Owain Gwynedd]] (Prydydd y Moch) dywedir:
==Gweler hefyd==
*[[Tryfer]]: gwaywffon arbennig i ddal [[pysgod]]
 
 
==Cyfeiriadau==
446,839

golygiad