Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mewnfudo"

Lleihawyd o 12 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
clean up
(New SVG map)
B (clean up)
 
==Gwledydd Prydain==
Yn y gorffennol beirniadwyd mewnlifiad o wledydd [[Asia]], yn enwedig [[Bangladesh]], [[Pacistan]] ac [[india]]. Erbyn yr [[21ain ganrif]], trodd y feirniadaeth tuag at fewnlifiad i wledydd Ewropeaidd o wleydd fel [[Gwlad Pwyl]]; rhoddodd hyn fodolaeth i bleidiau fel [[Plaid Annibyniaeth y DU]] (UKIP) gyda mewnlifiad yn brif ffocws iddynt.
 
Ar ben hyn ceir ymgais gan fewnfudwyr anghyfreithlon i ddod i wledydd Prydain, rhai ohonynt yn [[Ffoadur|ffoaduriaidffoadur]]iaid o wledydd lle ceir perygl i fywyd e.e. gan wrthdaro milwrol. Yn 2015 disgrifiodd y Prif Weinidog [[David Cameron]] fewnfudwyr anghyfreithlon fel 'haid' - disgrifiad sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer torf o adar neu anifeiliaid eraill. Ei farn oedd eu bod yn ceisio cyrraedd y Deyrnas Unedig am resymau economaidd yn hytrach nag oherwydd eu bod yn dianc rhag peryglon rhyfel. Yn 2015 cafwyd golygfeydd anhrefnus wrth geg twnnel y Sianel ger [[Calais]] wrth i lawer o fewnfudwyr anghyfreithlon geisio smyglo eu ffordd i fewn i wledydd Prydain.<ref>[http://golwg360.cymru/newyddion/prydain/196426-mewnfudwyr-anghyfreithlon-yn-ceisio-torri-i-mewn-i-brydain Gwefan golwg360;] adalwyd Awst 2015</ref>
 
==Cymru==
Er bod mewnfudo blynyddol wedi lleihau ers ei uchafbwynt diweddar yn 2002, mewnfudodd dros 55 mil o bobl o weddill [[y Deyrnas Unedig]] yn flynyddol ar gyfartaledd rhwng 1991 a 2001 (fel cymhariaeth: mae poblogaeth [[Merthyr Tudful]] o gwmpas 56 mil). Crynswth y mewnfudo yw hwnnw. Mae pobl wedi bod yn symud allan bob blwyddyn hefyd ond gan fod llai wedi bod yn symud allan bob blwyddyn nag sydd wedi bod yn symud i mewn, mae mewnfudo net positif wedi digwydd yn flynyddol.
 
Gan nad oes cymunedau brodorol o siaradwyr Cymraeg tramor—ac eithrio Gladfa'r Ariannin efallai— ddi-Gymraeg fydd mwyafrif mawr y mewnfudwyr p'un ai o wledydd eraill Prydain neu o dramor y byddant yn dod. Cymry Cymraeg sy'n dychwelyd ar ôl allfudo mewn blynyddoedd blaenorol fydd y mwyafrif mawr o'r siaradwyr Cymraeg sy'n mewnfudo'n amlwg. Gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2001 gallwn amcangyfrif fod 3,600 o siaradwyr Cymraeg wedi mewnfudo i Gymru yn ystod y 12 mis cyn y Cyfrifiad— yn bennaf, mae’n debyg, myfyrwyr Cymraeg yn dychwelyd i Gymru ar ôl astudio mewn prifysgol yn Lloegr. Hyd yn oed pe bai’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg yn sefydlog, un canlyniad mewnfudo fyddai bod y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn gostwng.
 
Ond gallwn ddisgwyl bod allfudiad net o siaradwyr Cymraeg, hynny yw, mae mwy o siaradwyr Cymraeg yn symud o Gymru nac sy’n symud yn ôl.
 
;Patagonia
Nid oes data cyfrifiad ar gael o’r [[Ariannin]] ac felly nid oes amcangyfrif cadarn o faint sy’n siarad Cymraeg yn Y Wladfa ym Mhatagonia. Mae’r amcangyfrif o 25,000 a ddyfynnir yn Ethnologue yn annhebygol o uchel. Amcangyfrif arall oedd bod o gwmpas 5,000 o siaradwyr yno yn ail ddegawd yr [[20g]].
 
;UDA
Roedd 2,655 o bobl (5 oed neu drosodd) yn siarad Cymraeg gartref yn Unol Daleithiau America, yn ôl Cyfrifiad 2000 y wlad.
 
;Awstralia
Yng Nghyfrifiad 2001 Awstralia gofynnwyd am yr iaith a siaredid gartref. Dywedodd 1,060 eu bod yn siarad Cymraeg gartref (565 o wrywod, 495 o fenywod) a olygai fod mwy’n siarad Cymraeg gartref na nifer o ieithoedd brodorol Awstralia.
 
;Canada
 
{{Comisiynydd}}
 
[[Categori:Mewnfudo| ]]
[[Categori:Mudo dynol]]
439,294

golygiad