Trefoli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B (GR) File renamed: File:City of lights.jpgFile:Financial District, Toronto.jpg File renaming criterion #2: To change from a meaningless or ambiguous name to a name that describes what the image di...
Llinell 10:
Ar y llaw arall mae dinasoedd yn lleoedd lle mae arian, gwasanaethau a chyfoeth wedi eu canoli. Mae dinasoedd lle mae'r economi yn dda ond yn bosib trwy [[mudoledd cymdeithasol]]. Mae busnesau lle creir swyddi ac arian wedi ei lleoli gan amlaf o fewn dinasoedd. Mae dinasoedd yn ffynhonnell masnachu, twristiaeth, ac hefyd yr ardal lle mae arian tramor yn llifo i'r wlad. Mae'n amlwg pam bydd rhywun ar fferm yn cymryd mantais o'r cyfle i symud i'r ddinas.
 
Mae yna wasanaethau syml well yn ogystal â gwasanaethau arbennig sydd ond i'w gweld yn y ddinas. Mae yna fwy o gyfleoedd am swyddi ac mae yna mwy o amrywiaeth o swyddi. Mae [[iechyd]] yn brif ffactor arall. Mae pobl, enwedig y tlawd yn cael ei orfodi i symud i'r dinasoedd lle mae yna ddoctoriaid yn gallu darparu ar gyfer eu hanghenion. Mae ffactorau eraill yn cynnwys adloniant (tai bwyta, theatrau, parciau thema, ayyb) a gwell addysg (prifysgolion). Mae gan ardaloedd trefol gymunedau cymdeithasol amrywiaethol oherwydd y poblogaethau uchel sy'n galluogi pobl i gwrdd â'i gilydd yn fwy na rhywun sydd yn byw yng nghefn gwlad.
 
Mae'r trefoli yma yn digwydd yn fwy yn ystod y newid o gymdeithas gyn-ddiwydiannol i gymdeithas ddiwydiannol. Mae newidiadau fel hyn yn rhoi nifer o weithwyr llafur allan o swyddi wrth i beiriannau gallu wneud eu swyddi.