Pêl-law: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Elda Prestigio Krim.jpg|bawd|280px|Ymosodwr yn barod i daflu'r bêl tua'r gôl.]]
[[Delwedd:Highlights Day 1 - 22nd World University Handball Championship 2014 - Guimares - Fisu.webm|bawd|280px|Fideo o bêl-llaw]]
[[Chwaraeon|Gêm]] a chwaraeir rhwng dau chwaraewr yw '''Pêl-llaw''' neu '''Pêl-law''', sy'n un o gampau [[Gemau Olympaidd Modern|Gemau Olympaidd]]. Mae'n eitha tebyg i bêl-droed 5-bob-ochor, gyda dwy gôl, ond fod y bêl yn cael ei daro gyda'r llaw, yn hytrach na'i gicio.
 
Arferid chwarae gêm o'r un enw yn yr [[Oesoedd Canol]] yng Nghymru, ac mae'n dal i gael ei chwarae - yn ddi-dor ers sawl canrif - mewn ardaloedd fel [[Nelson, Caerffili]].<ref>[http://www.bbc.co.uk/news/uk-36840724 Gwefan Saesneg y BBC;] ''Pel-Law, Wales's forgotten sport: 'Just a ball and a wall'''</ref> Dau chwaraewr sy'n chwarae'r Pêl-llaw Cymreig, fodd bynnag, a wal yn hytrach na goliau.
 
==Disgrifiad o bêl-llaw modern==
Ceir dau gyfnod o 30 munud yr un a'r tîm sy'n sgorio fwyaf o goliau sy'n curo. Mae'r cwrt yn mesur 40 wrth 20 mettr (131 x 66 tr), gyda gôl ym mhob pen. Ceir parth 6-metr o gwmpas pob gôl - a dim ond y gôl geidwad gaiff fynd i'r parth hwn. Sgorir gôl drwy daflu'r bêl i fewn i'r gôl o du allan y parth, neu wrth "neidio" i fewn i'r parth. Y tu fewn y chwaraeir y gêm fel arfer.
 
Mae'r gêm yn cael ei chwarae'n sydyn iawn ac mae nifer y goliau fel arfer rhwng 20 - 35. Caniateir cyffwrdd wrth i'r amddiffynwyr geisio atal yr ymosodwyr rhag sgorio.