Carst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
teipio
Llinell 5:
Creigiau gwaddodol sy’n cynnwys llawer o uniadau a holltau ac a luniwyd o galsiwm carbonad yw calchfeini [[Cymru]]. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o greigiau, maent yn hydawdd mewn dŵr glaw sy’n llawn [[carbon deuocsid]] ar ôl ei daith drwy’r [[atmosffer]]. Mae hydoddedd wedi’i gyfuno ag athreiddedd (''permeability'') ar hyd yr uniadau a’r planau gwelyo yn golygu bod dŵr sydd ychydig yn [[asid]]ig, yn hytrach na llifo mewn nentydd ar hyd yr arwyneb yn disgyn yn gyflym trwy uniadau ac ar hyd planau gwelyo. Ar ei daith bydd y dŵr yn ymdoddi’r calchfaen ac yn helaethu’r sianelau gan alluogi dŵr i fynd ar eu hyd. Mae agennau (''fissures'') a cheudyllau (''potholes'') yn cael eu ffurfio yn y modd hwn a byddant efallai yn ddigon mawr i allu cludo’r holl ddŵr a fydd fel arfer yn llifo ar yr wyneb. Felly, yr hyn sy’n nodweddu ardaloedd calchfaen yw diffyg draeniad arwyneb a nentydd yn diflannu i agennau neu lync-dyllau. Bydd modd i nentydd sydd wedi diflannu ymddangos ar waelod llethr serth, yn enwedig ar ochr prif [[dyffryn|ddyffrynnoedd]] sydd wedi endorri o dan y lefel trwythiad. Enghraifft dda o hyn yng Nghymru yw ymdarddiad nant o geg yr [[ogof]]âu yn [[Dan-yr-Ogof|Dan yr Ogof]] wrth ymyl [[Craig-y-nos]]. Fe elwir enghreifftiau o’r fath yn darddell Vaucluse, ar ôl yr enwog Fontaine de [[Vaucluse]] yn ne [[Ffrainc]].
 
Mae pentir nodedig [[Pen y Gogarth|Penygogarth]] yn [[Llandudno]] yn dirnod cyfarwydd ac yn enghraifft nodweddiadol o dirwedd galchfaen. Mae’r tirffurf hwn wedi datblygu o Galchfaen [[Carbonifferaidd]] haenedig. Mae’r diffyg dŵr arwyneb, brigiad o graig noeth o dan orchudd [[pridd]] tenau a dibynnau serth yn nodweddiadol o dirffurfiau carst. Mae [[Mynydd Eglwyseg]] yn [[Llangollen]] yn darren Galchfaen Carbonifferaidd.
 
Yn Ne Cymru, mae’r amlygiad llydan o Galchfaen Carbonifferaidd i’r gogledd o’r [[Maes glo De Cymru|maes glo]] yn darparu amrywiaeth cyfareddol o ffurfiau calchfaen. Am 30 milltir o [[Cwm Twrch|Ddyffryn Twrch]] yn ne-ddwyrain [[Sir Gaerfyrddin]] trwy [[Cwm Tawe|Gwm Tawe]] i flaen-nentydd [[Afon Nedd]] a thua’r dwyrain i [[Blorens|Florens]], mae’r ardal yn llawn o lync-dyllau bach, canolig a mawr. Mae’r pantiau crwn yn dynodi safleoedd lle mae cwymp yn nhoeau'r ceudyllau tanddaearol. Tua 15,000 erw yw cyfanswm yr ardal yr effeithir arni gan lync-dyllau.
 
Ar hyd arfordir deheuol [[Penrhyn Gŵyr|Gŵyr]], mae Calchfaen Carbonifferaidd yn amlwg mewn clogwyni ysblennydd. Mae’r creigiau hyn ymhlith rhai o olygfeydd gorau arfordir Cymru. Mae’r strata ar oleddf serth o’r [[môr]] ac wedi’u torri’n gildraethau a phentiroedd. Mae’r cildraethau bach wedi erydu ar hyd uniadau neu linellau gwan o fewn y strata ac mae nifer helaeth o ogofâu môr wedi cael eu cloddio o wyneb y clogwyn.
 
== Llyfryddiaeth ==