Hen Dywodfaen Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎top: clean up
 
Llinell 1:
[[Carreg]] sy'n bwysig iawn ar gyfer [[paleontoleg]] yw '''Hen Dywodfaen Coch'''. Ceir haenau Hen Dywodfaen Coch yng [[Cymru|Nghymru]], [[Yr Alban]], gorllewin a gogledd [[Lloegr]] ac yn ardal [[Omagh]], [[Gogledd Iwerddon]]. Mae'n garreg [[craig waddod|waddodol]] liw goch neu frown a ffurfiwyd yn ystod y Cyfnod [[Defonaidd]].
 
Mae Hen Dywodfaen Coch yn waddod creigiau [[Silwraidd]] wedi'u herydu ar ôl i'r tir godi mewn canlyniad i ffurfiad [[Pangaea]] ac wedi casglu mewn dŵr (efallai mewn [[Delta|deltâu]] afonydd). Mae haenau Hen Dywodfaen Coch yn gallu bod yn drwchus iawn (hyd at 11,000m mewn rhai lleoedd) ac mae llawer o [[ffosil]]au yn y garreg.