Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ecosystem"

Lleihawyd o 3 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B
B (→‎top: clean up)
 
'''Ecosystem''' yw cymdeithas o [[organeb]]au mewn [[ecoleg]] sy'n cynnwys [[planhigyn|planhigion]], [[anifail|anifeiliaid]] a chreaduriaid byw eraill yn ogystal a'u hamgylchedd. Fel arfer, maent yn ffurfio [[cadwyn bwydydd|cadwyni a gweoedd bwydydd]].
 
[[Arthur Tansley]] oedd y gwyddonydd cyntaf a ddefnyddiodd y term '''ecosystem''' mewn traethawd ym [[1935]], ond roedd [[Roy Clapham]] yn defnyddio'r un term ym [[1930]] i ddisgrifo undeb creaduriaid gyda'u hamgylchedd.
 
Peth deinamig a chymhleth yw ecosystem ac mae egni a defnyddiau'n llifo ynddi. Mae ecosystemau mawr - er enghraifft coedwig gyfan - a bach - er enghraifft pwll. Fel arfer, mae rhwystrau fel [[anialwch]], [[mynyddoedd]] neu [[foroedd]] rhwng ecosystemau, neu mae ecosystem yn system annibynnol, fel pwll neu afon.
 
Mewn ecosystem, mae cydbwysedd rhwng y creaduriaid, ond mae'n bosib fod amgylchedd yn newid neu greadur newydd yn dod i'r ecosystem yn dymchwel popeth ac o ganlyniad mae'n bosib fod llawer o greaduriaid neu hyd yn oed [[rhywogaeth]]au yn marw.
450,490

golygiad