Brig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB |
B →top: clean up |
||
Llinell 5:
Mae '''brig''' yn fath o [[Llong hwylio|long hwylio]] gyda dau fast, a'r prif hwyliau ar y ddau wedi eu gosod yn groes i'r llong (''square rig''). Gelwir llong dau fast sydd a'r hwyliau ar y mast cefn yn rhedeg ar hyd y llong (''fore-and-aft rig'') yn [[Brigantin|frigantin]].
Defnyddid brigiau fel llongau masnach ac fel llongau rhyfel. Cofnodir y math yma o long cyn 1600, ond y [[19g]] oedd oes aur y brig. Roedd y brig yn llong gyflym a hawdd ei thrin, ond roedd angen mwy o griw nag ar [[sgwner]] o'r un maint.
Roedd y brig yn fath boblogaidd o long ym mhorthladdoedd [[Cymru]] yn ystod y rhan fwyaf o'r 19ed ganrif, ond tua diwedd y ganrif daeth y sgwner yn fwy poblogaidd. Ar y cyfan, tueddai brig i fod yn fwy na sgwner, ond roedd hyn yn amrywio. Ymysg brigiau adnabyddus mae ''[[HMS Beagle]]'', y llong y teithiodd [[Charles Darwin]] arni, a'r ''[[Mary Celeste]]''.
|