Cefnfor yr Arctig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|af}} using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
{{Cefnforoedd}}
Y cefnfor sydd o gwmpas [[Pegwn y Gogledd]] yw '''Cefnfor yr Arctig'''. Mae e wedi ei lleoli rhwng [[Norwy]], [[Rwsia]], [[Alaska]] (rhan o [[Unol Daleithiau America]]), [[Canada]], [[Yr Ynys Las]] a [[Gwlad yr Iâ]].
 
Y moroedd sydd yn perthyn i'r Cefnfor Arctig yw [[Môr Norwy]] rhwng Norwy a'r Ynys Las, [[Môr Barents]] i'r gorllewin o [[Novaya Zemlya]] (ynys fawr sy'n perthyn i Rwsia), [[Môr Kara]] i'r dwyrain o'r ynys honno, [[Môr Laptev]] i'r gorllewin o [[Ynysoedd Novosibirskiye]], a [[Môr Dwyrain Siberia]] oddi ar arfordir dwyrain Rwsia. Yng ngogledd America mae [[Môr Beaufort]] yn perthyn iddo.
 
Ynysoedd mwyaf Cefnfor yr Arctig yw: [[Spitsbergen]] (Norwy), [[Tir Franz Josef]], [[Novaya Zemlya]], [[Severnaya Zemlya]], [[Ynysoedd Novosibirskiye]] ac [[Ynys Wrangel]] (i gyd yn perthyn i Rwsia), yn ogystal ag [[Ynys Victoria (Canada)|Ynys Victoria]], [[Ynysoedd Parry]] ac [[Ynys Ellesmere]] (y tair ohonyn nhw yn perthyn i Ganada).
 
Mae Cefnfor yr Arctig yn cysylltu i [[Cefnfor Iwerydd|Gefnfor Iwerydd]] rhwng [[cyfandir]] [[Ewrop]] a'r Ynys Las ac hefyd trwy dyfrffyrdd niferus rhwng ynysoedd gogledd Canada sy'n cysylltu â [[Culfor Davis|Chulfor Davis]] rhwng Yr Ynys Las a Chanada. Ceir cysylltiad arall i'r [[Cefnfor Tawel]] trwy [[Culfor Bering]].
 
Dyfnder mwyaf y cefnfor hwn yw 5,220 m, a maint ei arwyneb yw tua 12.26 miliwn km². Mae [[pacrew pegynol]] arno yn y gogledd ac mae rhew yn drifftio bron ar ei hyd.
 
{{Rhanbarthau'r Ddaear}}
 
 
 
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}