Tsunami: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎top: clean up
Llinell 5:
[[Ton]] neu nifer o donnau anferthol yw '''tsunami''' neu '''swnami''' (o'r 津波 [[Siapaneg]] 'ton fawr mewn porthladd'; ynganiad: ''swnami''). Fel arfer, mae tsunami yn cael ei chreu yn dilyn symudiadau sydyn e.e. [[daeargryn]], ffrwydriad [[llosgfynydd]] ar waelod y môr, ffrwydriad bom atomig, neu wedi i [[awyrfaen]] ddisgyn i'r môr.<ref>{{cite web|url=http://www.jpl.nasa.gov/spaceimages/details.php?id=PIA04373|title=Deep Ocean Tsunami Waves off the Sri Lankan Coast|author=|date=|publisher=|accessdate=3 Tachwedd 2016}}</ref> Mae'n bosib mai un o'r tsunamis mwyaf creulon a fu erioed, o fewn cof bodau dynol, oedd hwnnw [[daeargryn a tsunami Sendai 2011]] a laddodd tua 230,000 o bobl mewn 14 o wledydd oedd a'u harfordir ar [[Cefnfor India|Gefnfor India]].
 
Mae [[ynni]] Tsunami yn gyson ac yn penderfynu uchder a chyflymder y tonnau. Felly mae uchder y don yn tyfu pryd mae hi'n dod i le mwy bas ger y tir ac mae ei chyflymder yn arafu. Tra bod y don yn symud ar wyneb y môr mae hi'n isel, yn gyflym ac o donfedd hir, ac felly mae'n anodd sylwi arni, ond mewn bae neu le arall cul a bas mae'n bosibl iddi fod yn fwy nag 30m uchder ac iddi achosi niwed erchyll.
 
Mae systemau rhybudd gan nifer o drefi ar lan y [[Môr Tawel]] (yn bennaf yn [[Siapan]] ac yn [[Hawaii]]) ac mae Sefydliadau [[Seismoleg]] a [[lloerennau]] yn gwylio a rhagfynegi Tsunami.