Blog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cyfeiriadau: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|af}} (2) using AWB
B clean up
Llinell 1:
[[Gwefan]] gan unigolyn neu grŵp sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson gyda chofnodion mewn trefn wrth-gronolegol, gan amlaf gan ddefnyddio [[meddalwedd]] [[System rheoli cynnwys|rheoli cynnwys]] megis [[Blogger]], [[LiveJournal]] neu [[WordPress]] yw '''blog'''.
 
Mae'r term <nowiki>''Blog''</nowiki> yn dalfyriad o'r term Saesneg <nowiki>''</nowiki>''Web log''<nowiki>''</nowiki>, a ddefnyddwyd yn wreiddiol i ddisgrifio cofnodion, neu log, o bethau diddorol roedd person yn eu darganfod ar y we.<ref>http://www.rebeccablood.net/essays/weblog_history.html</ref>
 
Nodweddir blogiau hefyd gan y gallu i roi sylwadau ar gofnodion, yn ogystal â ffrydiau [[RSS]], sydd yn galluogi darllenwyr i dderbyn y cofnodion diweddaraf trwy ddarllenwr RSS. Mae RSS hefyd yn golygu y gall cynnwys blog gael ei ddosbarthu i wefannau eraill yn awtomatig wrth iddynt gael eu ddiweddaru.
 
Gall testun blog amrywio o hynt a helynt bywyd personol yr awdur i ganolbwyntio ar bwnc penodol, fel chwaraeon, crefydd neu wleidyddiaeth.<ref>Gweler er engrhaifft, [http://www.blogdroed.net/ Blog Droed] am [[pêl-droed|bêl-droed]], [http://cristnogblog.blogspot.com/ Cristnogblog] am weithgareddau Cristnogol yng Nghymru, a [http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/vaughanroderick/ Blog Vaughan Roderick], blog Golygydd Materion Cymreig y [[BBC]].</ref> Mae yna hefyd flogiau sydd yn arbennig ar gyfer cofnodi lluniau yn uniongyrchol o [[ffôn symudol]] neu wedi eu llwytho o [[camera digidol|gamera digidol]].
Llinell 9:
== Enghreifftiau o flogiau Cymraeg a Chymreig ==
Mae dros 400 o flogiau ar gael yn y Gymraeg<ref>Rhestr Blogiau Cymraeg Hedyn http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_Cymraeg</ref> ond daeth cynnydd yn y niferoedd yn nechrau [[2003]], o bosibl yn sgil
dylanwad [http://morfablog.com Morfablog], un o'r blogiau Cymraeg cynharaf, yn unol a thŵf [[maes-e]], gwefan drafod yn Gymraeg, lle bu galw ar bobl i ddechrau blogiau er mwyn cynyddu'r swmp o wefannau a gynhelir yn Gymraeg.
 
Mae cyfran o flogiau Cymraeg yn cael eu cynnal gan bobl sy'n byw y tu allan i Gymru, gyda llawer ohonynt heb gysylltiad â Chymru na'r iaith.<ref>{{eicon en}} [http://ella.slis.indiana.edu/~clhoneyc/homepage/papers/blogiadur-final.doc ''The Blogiadur—A community of Welsh language bloggers''] [http://www.comp.glam.ac.uk/pages/staff/djcunlif/ Cunliffe, D.], a [http://ella.slis.indiana.edu/~clhoneyc/homepage/index.html Honeycutt, C.] (2008), tud. 6</ref>
Llinell 20:
== Cyfeiriadau ==
<references/>
 
 
 
 
[[Categori:Blogiau]]