Cors: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Image:Raselink.jpg|bawd|200px|Llystyfiant nodweddiadol o gors, yn Sumava, Gweriniaeth Tsiec.]]
Tir gwlyb parhaol yw '''cors'''. Yn aml mae [[llyn]] yn troi'n gors yn nhreigl amser, ac yn nes ymlaen mae'r gors yn troi'n dir sych.
 
Gellir cael nifer o wahanol fathau, yn dibynnu ar natur y graig a'r pridd yn yr ardal. Lle mae'n asidig, cysylltir y gors fel rheol a [[mawn]]; dyma'r math mwyaf cyffredin ar gors yng Nghymru.
 
Gellir rhannu'r corsydd hyn yn gorsydd yr iseldir a chorsydd yr ucheldir. Mae corsydd yr iseldir yn fawnogydd sydd wedi datblygu mewn mannau lle mae dŵr yn casglu oherwydd traeniad gwael. Ffurfir mawn, gan fod diffyg [[ocsigen]] yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Bydd ymgasgliad y mawn yn codi arwyneb y gors uwchben y tir o'i chwmpas i ffurfio llun cromen. Defnyddir y term [[cyforgors]] am y rhain; esiamplau yw [[Cors Fochno]] a [[Cors Caron|Chors Caron]].
 
Gall corsydd yr ucheldir ffurfio dros ardaloedd eang lle mae llawer o law yn disgyn. Ceir enghreifftiau o'r math yma o gors ar y [[Migneint]].